Cynulliad 'ddim yn ymwybodol o ddigwyddiadau elusen'

  • Cyhoeddwyd
Pastor Yang Tuck YoongFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pregethwr Yang Tuck Yoong wedi annog "safiad yn erbyn" pobl hoyw

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud nad oedd yn ymwybodol bod elusen Gristnogol gyda chysylltiadau â phregethwr a honnodd bod perthynas hoyw yn bechod wedi cynnal digwyddiadau yno.

Fe wnaeth Sefydliad Evan Roberts, sy'n cael ei arwain gan ddau AC Ceidwadol, gynnal nifer o ddigwyddiadau yn 2018 a 2019.

Mae gan y sefydliad berthynas agos â'r pregethwr Yang Tuck Yoong o Singapore, sydd wedi dweud yn y gorffennol fod bod yn hoyw yn "bechod".

Mae'r ymgyrchwr hawliau dynol blaenllaw, Peter Tatchell wedi galw ar y ddau AC - Darren Millar a Russell George - i dorri cysylltiadau â'r pregethwr.

'Rhesymau priodol'

Dywedodd y corff sy'n rheoli'r Cynulliad bod Mr Millar wedi noddi'r digwyddiadau yn ei enw ei hun.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad, cyfrifoldeb ACau yw sicrhau bod cyfleusterau'n cael eu defnyddio ar gyfer "rhesymau priodol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar AC a Russell George AC yn ymddiredolwyr Sefydliad Evan Roberts sydd yn berchen ar Gapel Pisgah yng Nghasllwchwr

Yn cyfeirio at ddigwyddiad yn 2018, dywedodd Sefydliad Evan Roberts ei fod wedi bod yn "llwyddiant ysgubol", oedd wedi cynnwys anerchiad gan y Llywydd Elin Jones a gweinidog Llywodraeth Cymru, Julie James.

Dywedodd y sefydliad ei fod wedi derbyn £7,000 mewn rhoddion wedi'r brecwast gweddïo.

Dydy Mr Millar ddim wedi ymateb i geisiadau am sylw ar y mater.