Dau wedi'u hanafu wedi ffrwydradau ar safle dur Tata
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi'u hanafu yn dilyn tri ffrwydrad ar safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn oriau mân fore Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 03:30, ac roedd hyd at 10 injan dân yn ymateb i'r digwyddiad.
Mae Tata yn dweud bod y ffrwydrad "yn ymwneud â gollyngiad metel tawdd".
Dywedodd y cwmni fod y ddau gafodd eu hanafu wedi cael mynd adref ar ôl derbyn triniaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Tata fod y cwmni yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys.
Fe ddywed y datganiad: "Ychydig wedi 03:30 bu digwyddiad ar ein safle ym Mhort Talbot yn ymwneud â metel tawdd yn gollwng.
"Cafodd dau o'n gweithwyr fan anafiadau ac mae'r ddau wedi cael mynd adref ar ôl triniaeth.
"Arweiniodd y digwyddiad at nifer o danau a gafodd eu diffodd gan ein gwasanaethau brys ein hunain gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Roedd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yno hefyd."
Meddai'r Gwasanaeth Tân mewn datganiad: "Ar ei anterth roedd gennym 10 injan dân ar y safle gan ddefnyddio offer anadlu arbennig a thŵr arbenigol er mwyn diffodd y tanau.
"Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty gan barafeddygon gyda mân anafiadau.
"Fe wnaethom adael y safle am 08:40 gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb am y digwyddiad i Tata."
Ffrwydrad 'anferth'
Mae BBC Cymru yn deall fod y ddamwain wedi digwydd ar ddarn o lein rheilffordd rhwng y ffatri beirianyddol a'r ffatri gynnal a chadw.
Achoswyd y ffrwydrad gan fetel tawdd yn dod i gysylltiad gyda dŵr oer.
Mae'r safle bellach wedi ail agor wrth i'r cwmni asesu unrhyw ddifrod i'r adeiladau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn sawl galwad toc wedi 03:30 yn adrodd am y ffrwydradau.
Dywedodd Craig Williams sy'n byw gerllaw'r safle, wrth y BBC ei fod wedi clywed "bang anferth".
"Mae'n anarferol clywed rhywbeth o'r raddfa yna.
"Roedd y bang yn un anferth. Roedd y tŷ yn ysgwyd ychydig. Dyw e ddim yn rhywbeth arferol i ni," meddai.
Y safle ym Mhort Talbot yw'r gwaith dur mwyaf yn y DU ac mae'n cyflogi 4,000 o bobl.
Fe gafodd y ffrwydradau eu clywed mor bell â Phen-y-bont ar Ogwr.
'Angen adolygiad llawn'
Mae Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock wedi galw am "adolygiad llawn" yn dilyn y digwyddiad.
"Mae'n rhaid i ni ddeall pam y digwyddodd a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto.
"Mae proses dechnegol a chymhleth iawn wrth wneud dur ac mae pethau'n mynd o'i le weithiau."
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ddatganiad wedi'r digwyddiad yn dymuno "gwellhad buan i'r rhai gafodd eu hanafu" ac yn "diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb chwim".
"Mae'n bwysig fod cwmni Tata Steel yn ymateb i bryderon diogelwch allai godi o ganlyniad i'r digwyddiad yma i sicrhau lle staff a thrigolion yn y gymuned leol ac yn ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012