Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Hull City

  • Cyhoeddwyd
Abertawe yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Abertawe 2-0 ar y blaen wedi 66 munud

Mae gobeithion yr Elyrch o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth ar ben ar ôl iddyn nhw ildio mantais o ddwy gol adref yn erbyn Hull City.

Roedd Abertawe yn edrych fel eu bod nhw am ennill eu seithfed gêm gartref o'r bron ar ôl i Ollie McBurnie sgorio dwywaith i dîm Graham Potter.

Daeth gôl gyntaf yr Albanwr wedi gwaith da gan Nathan Dyer a Connor Roberts lawr yr asgell dde, cyn i groesiad isel Wayne Routledge ganfod McBurnie chwe llath o'r gôl.

Llwyddodd McBurnie i ychwanegu'r ail wrth benio croesiad Daniel James i gefn y rhwyd wedi 66 munud.

Ond fe sgoriodd yr ymwelwyr dwy gôl mewn 13 munud i ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Jarrod Bowen a Nouha Dicko gafodd y goliau sy'n golygu y bydd y ddau dîm yn gorffen mewn safle cyfforddus yng nghanol y tabl eleni.