Pro 14: Dreigiau 34-32 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Y Dreigiau yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Dreigiau yn dathlu

Mae'r Scarlets wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle ar gyfer Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn dilyn gornest hynod gyffrous yn Stadiwm Principality.

Roedd cais Matthew Screech a throsiad Jason Tovey yn ddigon i gipio buddugoliaeth hwyr i'r Dreigiau - y gêm gyntaf i'r rhanbarth ennill oddi cartref ers mis Mawrth 2015.

Bron i Rhys Patchell ennill y gêm i'r Scarlets gyda chic ola'r gêm, ond fe hedfanodd y bêl heibio'r pyst.

Roedd dau bwynt bonws yn ddigon i sicrhau bod y Scarlets yn gorffen yn bedwerydd yn y tabl, gan fod Caeredin wedi colli yn erbyn Glasgow.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Johnny McNicholl sgoriodd yr ail gais i'r Scarlets

Y Scarlets aeth ar y blaen diolch i gais gan Ioan Nicholas yn fuan ar ôl i Hallam Amos dderbyn cerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.

Roedd y Scarlets ar y blaen o 17-6 ar hanner amser wedi i Johnny McNicholl ychwanegu ail gais i'r ffefrynnau.

Daeth y Dreigiau 'nol fewn i'r gêm diolch i gais gan Screech, cyn i wrth-ymosodiad ardderchog gan Aaron Wainwright roi cyfle i Jack Dixon ychwanegu at ddechreuad hynod gyffrous i'r ail hanner.

Aeth y Dreigiau ar y blaen wrth i Josh Lewis sgorio eu trydedd cais o fewn naw munud.

Fe wnaeth y Scarlets frwydro 'nol wrth i Jonathan Davies drosi, cyn i Johnny McNicholl ychwanegu ei ail gais o'r prynhawn.

Er i Halfpenny roi'r Scarlets pum pwynt ar y blaen yn hwyr yn y gêm, roedd cais hwyr Screech yn ddigon i gipio'r fuddugoliaeth.