Tad cyn-ymosodwr CPD Caerdydd, Emiliano Sala wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae tad cyn-ymosodwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala wedi marw, dim ond tri mis ar ôl marwolaeth ei fab.
Bu farw Horacio Sala, 58 oed, wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon ddydd Gwener.
Yn ôl adroddiadau o'r Ariannin, bu farw Mr Sala cyn i'r gwasanaethau allu cyrraedd ei gartref yn Progreso.
Cafodd ei fab Emiliano a'r peilot David Ibbotson eu lladd pan ddiflannodd eu hawyren wrth hedfan o Nantes i Gaerdydd ar 21 Ionawr.
Dywedodd CPD Caerdydd mewn datganiad eu bod nhw'n "cydymdeimlo yn arw gyda theulu a ffrindiau Mr Sala".