Gohirio ras seiclo 100 milltir oherwydd y tywydd garw
- Cyhoeddwyd
Mae ras seiclo 100 milltir o hyd wedi gorfod cael ei gohirio oherwydd pryderon am dywydd garw dros y penwythnos.
Yn dilyn cyngor gan awdurdodau lleol, yr heddlu a swyddogion meddygol, dywedodd trefnwyr y Carten 100 nad oedd hi'n ddiogel cynnal y ras ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth y digwyddiad, sy'n dechrau yng Nghaerdydd ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod, ddenu tua 2,500 o gystadleuwyr y llynedd.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer nos Wener a dydd Sadwrn.
Doedd y penderfyniad "ddim yn un hawdd", yn ôl y trefnydd Peter Palmer.
Mae'r trefnwyr wedi gofyn i'r cystadleuwyr ddal gafael ar eu rhifau cofrestru tra bod tîm Carten 100 yn edrych ar y posibilrwydd o aildrefnu'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019