Gwaith yn ailddechrau ar safle gwaith dur Tata

  • Cyhoeddwyd
Difrod Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cryn dipyn o ddifrod ei achosi gan y ffrwydrad

Mae'r gwaith wedi ailddechrau ar safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn dilyn ffrwydradau.

Fe gafodd dau berson eu hanafu yn dilyn tri ffrwydrad yn oriau mân fore Gwener, ond mae'r ddau bellach wedi cael mynd adref ar ôl derbyn triniaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am tua 03:30, ac roedd hyd at 10 injan dân wedi ymateb i'r digwyddiad.

Mewn datganiad dydd Gwener, dywedodd Tata bod y ffrwydrad "yn ymwneud â gollyngiad metel tawdd".

Dywedodd y cwmni fore Sadwrn bod gwaith cynhyrchu yn ffwrnais rhif pump a ffwrnais rhif pedwar bellach wedi ailddechrau.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro i drigolion lleol am lefelau sŵn posib wrth i'r ffwrneisi gael eu tanio.

Mae'r ymchwiliad i achos y ffrwydrad yn parhau.