Mark Williams allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae pencampwr snwcer y byd, Mark Williams wedi colli yn erbyn David Gilbert yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd yn Sheffield.
Dywedodd y Cymro 44 oed ei fod wedi mynd i'r ysbyty ar ôl sesiwn agoriadol y gêm nos Wener, oherwydd poenau yn ei frest.
Fe wnaeth Williams drydar yn dweud nad oedd yn gallu delio â'r boen a'i fod felly wedi mynd i uned frys.
Roedd Williams ar ei hol hi o 5-3 wrth i'r chwarae ailddechrau brynhawn Sadwrn.
Er i Williams ddod yn agos i frwydro 'nol ar brydiau, fe lwyddodd Gilbert i ddal 'mlaen i'w fantais ac ennill y gêm o 13-9.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019