Penodi Roger Lewis yn llywydd newydd Amgueddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
roger lewisFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roger Lewis yn gyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru

Mae cyn-bennaeth Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi camu lawr fel cadeirydd Maes Awyr Caerdydd a chael ei benodi'n llywydd newydd ar Amgueddfa Cymru.

Fe fydd Mr Lewis yn gyfrifol am sefydliad cenedlaethol sydd â goruchwyliaeth dros saith o amgueddfeydd ledled Cymru.

Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd yn syth gyda'r penodiad yn para am bedair blynedd.

Cafodd penodiad Mr Lewis ei gyhoeddi gan Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, yr Arglwydd Elis Thomas.

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Mr Lewis: "Byddaf yn gwneud popeth y gallaf i sicrhau bod y sefydliad hynod bwysig hwn yn ffynnu i bawb yng Nghymru.

"Mae gennym gynulleidfa eang iawn - ond mae sicrhau rhagoriaeth yn rhywbeth y gall Amgueddfa Cymru ei sicrhau i bob cynulleidfa ar raddfa fawr."

Ymddiriedolwyr newydd

Fe fydd yn rhoi'r gorau i'w rôl fel cadeirydd Maes Awyr Caerdydd ar 31 Hydref.

Yn 2018/19, fe wnaeth Amgueddfa Cymru lwyddo i ddenu 1.89 miliwn o ymwelwyr - cynnydd o 6.5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Y llywydd newydd fydd cadeirydd Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros fwrdd yr ymddiriedolwyr.

Mae'r llywydd yn atebol yn bersonol i Weinidogion Cymru am ddelio â materion Amgueddfa Cymru ac am ymddygiad ei hymddiriedolwyr.

Dydd Llun hefyd fe gafodd enwau pedwar o ymddiriedolwyr newydd eu cadarnhau sef Maria Battle, Gwyneth Hayward, Robert Humphreys, Madeleine Havard a thrysorydd, Hywel John.