Yr academydd yr Athro Antony Carr wedi marw yn 81 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r hanesydd a'r academydd yr Athro Emeritws Antony D Carr yn 81 oed.
Roedd yn awdurdod uchel ei barch ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol ac wedi cyhoeddi sawl llyfr.
Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys:
Owen of Wales: The end of the house of Gwynedd, Gwasg Prifysgol Cymru (1991);
Medieval Wales, Macmillan (1995);
The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages, Gwasg Prifysgol Cymru (2017).
Fe wnaeth ymddeol fel athro Hanes ym Mhrifysgol Bangor yn 2002.
Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ynysoedd y Falkland ac ar ôl hynny ym Mauritius, cyn symud i Gymru a derbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Ym 1964 ymunodd â staff Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Bangor.
Brain of Britain
Yn 18 oed, yr Athro Carr oedd enillydd ieuengaf erioed rhaglen gwis y BBC, Brain of Britain, gan gipio'r wobr yn 1956 wedi iddo guro athro a phrifathro.
Yn disgrifio ei hun fel bachgen ifanc hynod swil dywedodd iddo ymddiddori mewn materion cyfoes tra'n fachgen ysgol yn delifro papurau newydd ym Mhorthaethwy, gan ddarllen y penawdau.
Ar ôl ennill y gysytadleuaeth fe wnaeth papurau Llundain fathu'r teitl "y bachgen papur newydd enwocaf ym Mhrydain".
Yn 1962, yn 24 oed, hawliodd y teitl 'Top Brain of Britain' - cystadleuaeth rhwng enillwyr yr ornest dros y blynyddoedd. Roedd yn gweithio mewn archifdy yn Essex ar y pryd.
'Gŵr bonheddig'
Wrth roi teyrnged i'r Athro Carr, dywedodd Dr Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor: "Roedd yr Athro Antony Carr yn ysgolhaig adnabyddus ym maes Hanes Canoloesol Cymru ac yn awdur sawl testun allweddol gan gynnwys Medieval Wales (a gyhoeddwyd ym 1995 gydag ail argraffiad yn 2017) yn ogystal â The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages.
"Parhaodd i fod yn weithgar gyda'i ymchwil a chyda chymdeithasau lleol fel ISWE a Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn.
"Roedd yn ŵr bonheddig caredig gyda synnwyr digrifwch arbennig a bydd y Brifysgol yn ei golli'n fawr."