Esgob Mynwy i ymddeol ddiwedd y mis ar sail iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd Esgob Mynwy yn ymddeol ddiwedd y mis ar sail ei iechyd, yn ôl yr Eglwys Yng Nghymru.
Mae wedi bod yn absennol o'r rôl ers naw mis yn dilyn honiadau o anghydfod gydag aelodau o'i dîm hŷn.
Roedd wedi gwasanaethau Esgobaeth Mynwy am 34 o flynyddoedd, gan gael ei benodi'n esgob yn 2013.
Dywed yr eglwys y bydd yn cyhoeddi manylion trefniadau gwasanaeth ffarwelio ag Esgob Pain yn fuan.
Mae Archesgob Cymru, John Davies wedi gwrthod gwneud sylw am yr anghydfod yn y gorffennol.
Ond fe ddywedodd ddydd Mawrth: "Mae Esgob Richard wedi bod yn offeiriad ffyddlon ac annwyl i'r rheiny y mae wedi eu gwasanaethu ac yn gydweithiwr gwerthfawr i minnau a'r esgobion eraill."
Daeth ymchwiliad gan yr eglwys i'r casgliad nad oedd yna achos i'w ddilyn, ond bu'n rhaid trefnu cymodi ffurfiol rhwng yr esgob a'i staff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2013