Coeden wedi disgyn ar fachgen ger ysgolion Hen Golwyn

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion heddlu

Mae bachgen yn yr ysbyty gydag "anafiadau difrifol" ar ôl cael ei daro gan ddarn o goeden yn Hen Golwyn, Sir Conwy.

Roedd y bachgen - sydd yn ei arddegau - ar ei ffordd i'r ysgol pan ddisgynnodd gangen ar ei ben toc cyn 09:00 fore Mercher.

Cafodd ambiwlans, dau gerbyd ymateb cyflym a'r heddlu eu galw i lwybr oddi ar Ffordd Llanelian, rhwng Ysgol Bryn Elian ac Ysgol T Gwynn Jones.

Cafodd ei gludo gan Ambiwlans Awyr i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, ond yn ôl Heddlu'r Gogledd does dim lle i gredu bod yna berygl i fywyd y bachgen.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd brynhawn Mercher bod y bachgen "diolch i'r drefn... heb ei anafu cyn waethed â'r gred yn wreiddiol" a'i fod yn parhau i gael triniaeth ysbyty.

"Er bod y bachgen wedi cael nifer o anafiadau difrifol, does dim cred bellach eu bod yn rhai sy'n peryglu neu'n newid ei fywyd," dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn.

Mewn datganiad, dywedodd yr ysgol eu bod nhw'n "parhau mewn cyswllt â theulu'r bachgen".

Mae'r llwybr "yn dal ar gau am y tro" wrth i swyddogion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) barhau â'u hymchwiliad i'r achos.

Dywedodd y Prif Arolygydd Llewelyn eu bod yn "dymuno'r gorau" i'r bachgen wrth iddo wella, ac yn diolch i bawb oedd wedi ymateb mor gyflym wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn cynnig cefnogaeth i'r ysgol.