Dim tocyn ar ôl i sioe Te yn y Grug yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Bu Syr Bryn Terfel yn perfformio yn y gyngerdd agoriadol yn Eisteddfod Caerdydd y llynedd
Mae'r tocynnau ar gyfer sioe gerdd fawr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy - Te yn y Grug - i gyd wedi'u gwerthu o fewn saith awr.
Aeth y tocynnau ar gyfer y sioe - sydd yn addasiad sioe gerdd o nofel Kate Roberts - ar werth am 10:00 fore Mercher.
Bu'r Eisteddfod yn rhybuddio ar eu tudalen Facebook fod y tocynnau'n mynd yn gyflym, ac erbyn 16:30, daeth y neges fod y cyfan wedi mynd.
Mae Cefin Roberts, y cerddor Al Lewis, y bardd Karen Owen a Huw Foulkes ymysg y rhai sydd y tu ôl i'r cynhyrchiad.
Mae'r Brifwyl hefyd yn dweud bod tocynnau sioeau eraill yr wythnos yn gwerthu'n gyflym.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019