Holl lefydd carafan Eisteddfod Llanrwst wedi'u gwerthu

  • Cyhoeddwyd
eisteddfod

Mae'r holl lefydd i aros mewn carafan ar faes carafanau Eisteddfod Llanrwst eleni wedi'u gwerthu o fewn dwy awr a hanner o fynd ar werth.

Roedd ceisiadau am le yn agor am 10:00 fore Gwener ac fe gyhoeddodd yr Eisteddfod ychydig cyn 12:30 eu bod wedi'u gwerthu i gyd.

850 o lecynnau carafan oedd ar gael eleni, a dywedodd yr Eisteddfod bod 200 o safleoedd pebyll ar gaeau cyfochrog, sydd yn dal ar gael.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Awst i'r de o Lanrwst ger yr A470.

Yn 2017 fe wnaeth y maes carafanau ar gyfer Eisteddfod Môn lenwi ymhen mis - gyda'r trefnwyr yn dweud bryd hynny mai dyna'r cyflymaf i'r holl lefydd gael eu gwerthu.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod

Bydd y maes carafanau eleni wedi'i leoli ar gaeau Plas Tirion, rhyw 10 i 15 munud o gerdded o'r maes a thua dwy filltir i'r de o ganol Llanrwst.

Fe fydd bws gwennol am ddim hefyd yn rhedeg rhwng y maes a'r maes carafanau.

Mae safle carafan am wythnos yn costio £290, tra bod safle pabell yn £150.

Roedd yr Eisteddfod wedi dweud eisoes bod "disgwyl i'r maes carafanau a gwersylla fod yn boblogaidd iawn eleni felly archebwch eich lle yn fuan i osgoi cael eich siomi".

Eisteddfod Llanrwst 1989
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol fod yn Llanrwst oedd yn 1989