UKIP yn galw am 'sicrhau bod Brexit yn digwydd'

  • Cyhoeddwyd
UKIP

Dylai pleidleiswyr gefnogi UKIP yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddiwedd y mis i "sicrhau bod Brexit yn digwydd", yn ôl prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru.

Bydd Kris Hicks yn cwrdd â phleidleiswyr yng Nghasnewydd yn ddiweddarach, wedi i UKIP lansio ei ymgyrch etholiadol yn Middlesbrough ddydd Mercher.

"Mae pobl Cymru wedi dweud wrthyn nhw unwaith. Mae'n amser dweud wrthyn nhw eto a sicrhau bod Brexit yn digwydd," meddai.

Fe ddaeth UKIP yn ail yng Nghymru yn etholiadau diwethaf yr Undeb Ewropeaidd yn 2014, gan ennill un o'r pedair sedd yng Nghymru.

Ond mae ymgeisydd llwyddiannus y blaid bryd hynny, Nathan Gill, wedi gadael UKIP bellach.

Gerard BattenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gerard Batten yn lansio ymgyrch etholiadol UKIP yn Middlesbrough ddydd Mercher

Bydd Mr Gill yn ymgeisydd dros Blaid Brexit y tro yma - plaid sy'n cael ei arwain gan gyn-aelod arall UKIP, Nigel Farage.

Mae arweinydd UKIP, Gerard Batten, wedi addo ymgyrchu ar sail polisi "diamod" o sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE.

Dywedodd Mr Hicks: "Y tro yma, mae gan bobl sydd eisiau gadael y dewis rhwng Nathan Gill a minnau, ac rwy'n meddwl bod yr etholiad yma'n refferendwm ar amser Nathan Gill yn Senedd Ewrop.

"Mae'r amser am lais ffres i gynrychioli Brexiteers o Gymru, ac rwy'n barod i'w rhoi hi i Barnier and Juncker yn Senedd Ewrop.

"Mae pob pleidlais dros UKIP yng Nghymru yn rhuad draig yn erbyn sefydliad sydd o blaid aros."

Fe wnaeth UKIP hefyd lwyddo i gael saith aelod wedi'u hethol yn Aelodau Cynulliad yn 2016, ond mae pedwar ohonynt bellach wedi gadael y blaid.

Mae wyth plaid yn ymladd dros bedair sedd yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mai - Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, UKIP, y Blaid Werdd, Change UK a Phlaid Brexit.