Menyw wedi marw mewn tân yn Y Fenni

  • Cyhoeddwyd
tan

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod menyw wedi marw mewn tân mewn tŷ yn Y Fenni.

Dywedodd llefarydd nad ydyn nhw'n credu fod y digwyddiad ym Mharc Croesonen yn un amheus.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Croesonen tua 11:40 ddydd Gwener, gyda diffoddwyr o'r Fenni a Blaenafon yn bresennol.

Mae ymchwiliad eisoes wedi dechrau i achos y tân.