Cannoedd yn angladd y cyn-gynghorydd Paul James

  • Cyhoeddwyd
Angladd Paul James
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn yr angladd yn Aberystwyth roedd aelodau Plaid Cymru a chyfeillion Paul James yn y lluoedd arfog

Daeth cannoedd o bobl i angladd y cyn-gynghorydd Paul James yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn.

Cafodd yr angladd ei gynnal yn Eglwys San Mihangel yn y dref - ac ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd aelodau o Blaid Cymru a ffrindiau Paul James yn y lluoedd arfog.

Rhoddwyd teyrnged iddo gan AC Ceredigion a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ac roedd yna deyrngedau hefyd gan ffrindiau o'r lluoedd arfog a thri o'i feibion.

Cafodd Mr James ei daro tra'n seiclo rhwng Waun Fawr a Bow Street ar ffordd yr A487 ganol Ebrill.

Roedd e ar y pryd yn hyfforddi ar gyfer taith seiclo noddedig o Aberystwyth i Abertawe er mwyn codi £10,000 ar gyfer wardiau cardiac ysbyty Bronglais a Threforys.

Bydd y daith seiclo yn mynd yn ei blaen er cof am Mr James ac mae'r apêl bellach wedi codi £11,400.

'Cawr o ddyn'

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies fod pobl yn teimlo ei bod yn bwysig parhau â'r daith seiclo gan fod Paul yn "aelod gweithgar iawn o'r gymuned".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cylchlythyr Paul James ei gwblhau gan ei ffrindiau

Dywedodd hefyd bod busnesau yn ardal Aberystwyth yn parhau i godi arian at y daith.

Dim ond rhan o'i gylchlythyr i drigolion ward Sulien oedd wedi cael ei ysgrifennu cyn ei farw ond cafodd y rhifyn ei orffen gan ei ffrindiau.

"Roedd ganddo deimladau angerddol at y pentref ac roedd e wastad yn gwneud ei orau i bobl oedd yn byw yma," meddai Mr Davies.

"Roedd e'n gawr o ddyn - a phawb yn ei adnabod lle bynnag y byddai'n mynd."

Mewn datganiad fis diwethaf dywedodd teulu Paul James ei fod "yn ŵr ac yn dad cariadus a oedd yn byw bywyd i'r eithaf."

Ffynhonnell y llun, Arwerthwyr Alexanders
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Elizabeth Daniell o gwmni arwerthwyr Alexanders ymhlith y rhai sy'n casglu arian at yr elusen