Cynghorydd Plaid Cymru wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd sir gyda Phlaid Cymru wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda dau gar wrth iddo seiclo ger Aberystwyth.
Bu farw'r Cynghorydd Paul James yn y gwrthdrawiad ar yr A487 rhwng Waunfawr a Bow Street yng Ngheredigion am tua 17:30 ddydd Iau.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys bu farw Mr James o ganlyniad i'r anafiadau ddioddefodd yn y digwyddiad.
Roedd Mr James wedi bod yn hyfforddi ar gyfer taith feicio o Aberystwyth i Abertawe er mwyn codi £10,000 ar gyfer wardiau cardiac ysbytai Bronglais a Threforys.
'Dyn anhygoel'
Yn rhoi teyrnged iddo ar eu tudalen Facebook, dywedodd Plaid Cymru Ceredigion bod "Plaid Cymru yn dy ddyled".
"Gyda thristwch mawr, mae'n rhaid i ni nodi bod ein ffrind mawr, y cynghorydd unigryw, Paul James, wedi ein gadael," meddai'r neges.
"Nid oedd byth yn ofni sefyll dros breswylwyr ward Llanbadarn Fawr, ward Sulien, na chwaith i gamu ymlaen i helpu unrhyw un oedd ei angen ei gymorth.
"Roedd e'n ddyn anhygoel, ac fe fydd unrhyw un oedd yn ei adnabod yn gweld ei golled.
"Mae ein cydymdeimlad yn mynd tuag at Jane ac i bob aelod o'i deulu."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r llu wedi apelio am dystion, gan ychwanegu bod ymchwiliad i'r gwrthdrawiad wedi cael ei lansio.
Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, bod marwolaeth Mr James yn "golled enfawr i gynifer o bobl ac i'r achosion a gefnogodd, ond yn arbennig i'w deulu".
"Roedd Paul James yn gymeriad mawr, ym mhob ystyr o'r gair," meddai.
"Bu iddo fyw bywyd llawn - o fod yn aelod o'r Lleng Tramor i fod yn gynghorydd Plaid Cymru.
"Mi fydd bywyd Ceredigion yn llawer gwacach heb Paul. Mi welai i ei eisiau yn fawr iawn."
'Cawr yn ei gymuned'
Ychwanegodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake: "I'r rheiny oedd yn ddigon ffodus o fod wedi'i adnabod, roedd Paul yn gymeriad heb ei ail ac yn gawr yn ei gymuned.
"Yr hyn oedd yn bwysig iddo bob amser oedd ei benderfynoldeb i helpu pobl mewn angen.
"Anfonaf fy nghydymdeimladau dwysaf i'w deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."