Arestio dyn wedi marwolaeth Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl marwolaeth menyw 82 oed yng Nghasnewydd fore Sadwrn.
Cafodd y fenyw ei tharo gan lori ynghanol y ddinas.
Mae'r dyn 46 oed o Sir Bedford wedi cael ei arestio ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Brunbuga (A4042) oddeutu 09:45.
Bu farw'r ddynes yn syth a mae ei theulu wedi cael gwybod.
Mae rhan helaeth o'r ffordd yn parhau ar gau ac mae rhybudd i fodurwyr osgoi'r ardal.
Dywed plismyn bod ymchwiliad i'r farwolaeth yn cael ei gynnal ac maent wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.