Chwilio am yrrwr a darodd ddyn yn Nhre-lai

  • Cyhoeddwyd
Grand Avenue, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Dre-lai oddeutu 17:25 brynhawn Sadwrn

Mae dyn a oedd yn newid teiar ei gar ar ochr ffordd yn Nhre-lai, Caerdydd wedi cael ei anafu'n ddifrifol wedi iddo gael ei daro gan yrrwr wnaeth ffoi o'r lleoliad.

Fe darodd cerbyd yr unigolyn a pheidio â stopio yn dilyn y digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn 46 oed ei daro gan gar gwyn ar ffordd Grand Avenue yn Nhre-lai oddeutu 17:25.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â chofnod ffilm o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.