Porthladd Caergybi: Angen eglurder am ddigolledu busnesau 'ar fyrder'

Roedd y porthladd ar gau ar gyfer y cyfnod prysur cyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu "ar fyrder" a ddylai busnesau gafodd eu heffeithio gan gau Porthladd Caergybi gael eu digolledu, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Am 40 diwrnod dros gyfnod y Nadolig, roedd ail borthladd prysuraf y Deyrnas Unedig ar gyfer cerbydau ynghau, gan darfu ar gynlluniau teithwyr, cwmnïau cludo a busnesau.
Roedd gwerth y fasnach oedd yn mynd drwy Gaergybi fis Rhagfyr diwethaf bron hanner biliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol, clywodd y pwyllgor.
Mae'r cyngor lleol wedi galw am gymorth ariannol, gyda rhai busnesau yn dweud bod masnach wedi gostwng 90% dros y cyfnod dan sylw.
Fe wnaeth aelodau Pwyllgor Economi y Senedd feirniadu gweinidogion am y "diffyg cyflymder a brys" wrth ymateb i gau'r porthladd.
Gan wrthod y feirniadaeth honno, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fe wnaethon ni weithredu'n gyflym ac yn effeithiol ar sail y wybodaeth oedd ar gael i ni."

Fe wnaeth y porthladd ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr
Bu'n rhaid cau Porthladd Caergybi ym mis Rhagfyr ar ôl i ddwy long "ddod i gysylltiad" gyda glanfa gan achosi i ran ohoni ddymchwel, yn ôl perchennog y porthladd.
Arweiniodd hyn at gau'r porthladd yn gyfan gwbl rhwng 7 Rhagfyr a 16 Ionawr.
Roedd hyn yn golygu bod y porthladd ar gau ar gyfer y cyfnod prysur cyn y Nadolig.
Tra bod terfynfa 5 wedi ailagor, nid oes disgwyl i derfynfa 3 ailagor tan 1 Gorffennaf.
Yn eu hadroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, mae Aelodau o'r Senedd sy'n aelodau o'r pwyllgor yn mynegi siom ynghylch y "diffyg cyflymder a brys" gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i gau'r porthladd.
Maen nhw hefyd yn galw am "adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd" er mwyn i Gaergybi "fod yn barod ac yn wydn yn y dyfodol".

"Clywsom am rai cwmnïau yn adrodd am golledion o ddegau o filoedd o bunnoedd," meddai Andrew RT Davies
Dywedodd Andrew RT Davies AS, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd: "Clywsom am rai cwmnïau yn adrodd am golledion o ddegau o filoedd o bunnoedd.
"Rydym wedi ein siomi gan y diffyg cyflymder a brys yn ymateb Llywodraeth Cymru i gau llwybr masnach Ewropeaidd hollbwysig.
"Cyfyngedig yw'r dystiolaeth rydym wedi'i gweld bod Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn ddigonol â'r problemau a achoswyd gan y cau."
Yr ymateb yn 'rhy araf a heb ei gydlynu'
Ychwanegodd Andrew RT Davies, "Gweithredu lleol a chydweithio rhwng porthladdoedd wnaeth olygu nad oedd effaith cau porthladd Caergybi hyd yn oed yn waeth ar fasnach Cymru a'r economi ehangach.
"Mae'n amlwg nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn dderbyniol – roedd yn rhy araf, a heb ei gydlynu. Cafodd nifer o bobl eu gadael y tywyllwch gan nad oedd y cyfathrebu'n ddigon da - ni all hyn ddigwydd eto.
"Mae porthladdoedd a nwyddau'n hanfodol i'n heconomi, ac mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r meysydd hyn ers mwy na digon o amser.
"Cawsom addewid o bolisïau newydd erbyn mis Rhagfyr diwethaf, ond mae hyn bellach wedi'i ohirio tan y flwyddyn nesaf – nid yw hyn yn ddigon da, mae angen gweithredu nawr."
'Difrod economaidd hirdymor'
Mae AS Ynys Môn, Llinos Medi, wedi bod yn feirniadol iawn o ymateb Llywodraeth Cymru hefyd, gan ddweud y "dylai'r tarfu a achoswyd gan gau Porthladd Caergybi fod wedi bod yn agoriad llygad i Lywodraeth Cymru a'r DU ynghylch pwysigrwydd y llwybr masnach strategol hwn, ond methon nhw â gweithredu ar hyn."
"Pe bai hyn wedi digwydd ym Mhorthladd Dover, neu unrhyw faes awyr, rydyn ni'n gwybod y byddai'r ymateb wedi bod yn gyflym a phendant," meddai.
"Rydyn ni'n dal i brofi'r difrod economaidd hirdymor, ac mae angen sicrwydd arnon ni i wneud yn siŵr nad yw Caergybi yn cael ei amddifadu fel hyn byth eto."

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi sefydlu Tasglu Môr Iwerddon
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates ac Ysgrifennydd yr Economi Rebecca Evans, ond mae'n dweud ei bod yn "aneglur" pa weinidog oedd yn gyfrifol am ddelio â'r argyfwng.
"Nid yw'n glir i'r pwyllgor, a sefydliadau allweddol sy'n ymwneud â'r ymdrechion ymateb ac adfer, pa weinidog sy'n gyfrifol am ymateb Llywodraeth Cymru – efallai bod y dryswch hwn wedi gwaethygu problemau o ran yr ymateb," meddai'r pwyllgor.
"Mae'r pwyllgor yn argymell, mewn unrhyw ddigwyddiadau o'r raddfa neu'r cymhlethdod hwn yn y dyfodol, y dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar weinidog arweiniol a fydd yn goruchwylio ac yn atebol am reoli'r ymateb."
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates bod "tasglu aml-randdeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi" wedi cael ei sefydlu.
Dywedodd y pwyllgor y bydd "yn monitro gwaith y tasglu hwn yn agos".
'Cyflym ac effeithiol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig iawn na wnaeth y pwyllgor ofyn am eglurhad a gwybodaeth fanwl am yr ymdrechion i gefnogi cludiant nwyddau a symudiadau teithwyr cyn cyhoeddi eu hadroddiad.
"Ar y cyd â chwmnïau fferi a gweithredwr porthladdoedd preifat, fe wnaethom weithredu'n gyflym ac yn effeithiol ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael i ni wrth i raddfa ac effaith y digwyddiad esblygu.
"Fe wnaeth ein gweithredu ar y cyd helpu i reoli effaith uniongyrchol cau'r porthladd a sicrhau bod yr effaith ar fasnach yn cael ei lliniaru lle bynnag y bo modd – pethau nad yw'r adroddiad yn eu cydnabod.
"Bydd Tasglu Môr Iwerddon, sydd eisoes wedi cychwyn ar ei waith, yn werthfawr tu hwnt gan ein galluogi i edrych yn ôl ar gau'r porthladd dros dro a'i ystyried yn fwy gofalus, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diogelu gwytnwch llwybrau Môr Iwerddon yn y dyfodol."
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod am "ymateb yn llawn i'r adroddiad maes o law".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd17 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024