Nofio yn y môr yn helpu PTSD, medd cyn-filwyr yn Abertawe
"Ma' r'wbeth fel hyn, lle mae cyfle i siarad, a mynd i'r môr yn arbennig," medd Baden Meredith
- Cyhoeddwyd
"Mae mynd i'r môr yn codi ti, yn twymo dy galon ac yn codi dy ysbryd," medd cyn-filwr.
Mae Baden Lewis Meredith yn aelod o grŵp cymunedol Veterans RV Abertawe sydd yn helpu gwaith ymchwil academyddion ym mhrifysgol y ddinas.
Maen nhw'n astudio i weld a all therapi trochi dŵr oer liniaru symptomau PTSD ymhlith cyn-filwyr.
Bob bore Sul mae'r grŵp o gyn-filwyr yn cwrdd ar gyfer sesiynau trochi a nofio dŵr oer ym Mae Caswell, Penrhyn Gŵyr.

I nifer o gyn-filwyr mae mynd i ddŵr oer y môr yn help mawr
"Mae r'wbeth gyda fi i edrych mla'n ato fe bob wythnos. Mae yn rhoi cryfder i fi i gadw fynd," medd Mr Meredith.
"Oherwydd achosion bywyd fi, mae wedi bod yn galed a bob dydd mae'r ci gyda fi ar bwys gwely fi, ond wedi i fi gwrdd â'r grŵp 'ma yn Sioe Awyr Abertawe flwyddyn ddiwethaf, nawr mae rhywbeth 'da fi i edrych ymlaen ato bob wythnos.
"Pryd ti yn teimlo lawr, ti jyst yn meddwl, un diwrnod arall a bydd y bois yn dod. Ma' fe yn codi ti.
"Mae'n twymo dy galon di a chodi dy ysbryd."
Dywed Mr Meredith ei fod yn gobeithio y gall yr ymchwil helpu dynion eraill sydd â PTSD.
"Fi ffili canmol y criw yma ddigon. Mae pobl dan bwysau yn y gymuned a dim amser i wrando," ychwanegodd.
"Ma' r'wbeth fel hyn, lle mae cyfle i siarad, a mynd i'r môr yn arbennig."

Mae'r criw yma, a arferai fod yn y lluoedd arfog, yn mynd i nofio yn y môr bob Sul
Yn ôl PTSD UK, mae disgwyl i un ymhob 10 person gael profiad o PTSD ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae o leiaf 8% o gyn-filwyr yn cael diagnosis o PTSD yn flynyddol.
Fel rhan o'r ymchwil, mae'r criw o gyn-filwyr wedi bod yn rhoi samplau poer bedair gwaith y diwrnod dros ddeuddydd er mwyn mesur lefelau cortisol – sy'n ddangosydd straen.
Maen nhw hefyd wedi llenwi holiaduron yn disgrifio sut maen nhw yn teimlo ar ôl bod yn y dŵr.

Mae Cenydd Thomas yn gyn-filwr fuodd yn gwasanaethu yn Bosnia a Gogledd Iwerddon
Un arall o'r nofwyr sydd yn cwrdd yn wythnosol ym Mae Caswell yw Cenydd Thomas - cyn-filwr fuodd yn gwasanaethu yn Bosnia a Gogledd Iwerddon.
"Ar ôl dod allan o'r dŵr rwy'n teimlo yn fwy positif nag o'n i cyn mynd mewn a ma' hynna'n gwneud i fi deimlo yn fwy cryf yn y fy meddwl," meddai.
"Mae'n neis cael sgwrs a siarad yn y dŵr hefyd. Mae hynna yn helpu sut dwi'n teimlo."

Mae'r canlyniadau cyntaf yn awgrymu fod trochi mewn dŵr oer yn cael effaith gadarnhaol ar nifer o symptomau PTSD
Mae'n ddyddiau cynnar i ymchwilwyr y brifysgol yn Abertawe ond mae'r canlyniadau cyntaf yn awgrymu fod trochi mewn dŵr oer yn cael effaith gadarnhaol ar nifer o symptomau PTSD ac fe allai arwain at ddatblygu llwybrau triniaeth.
Phil Jones, cyn-gomando y Llynges Frenhinol wnaeth sbarduno'r gwaith ymchwil.
"Am flynyddoedd rydw i wedi ymarfer trochi dŵr oer i gynorthwyo fy iechyd meddwl a lles cyffredinol, felly roeddwn yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ochr yn ochr â'r grŵp o gyn-filwyr rwy'n eu cefnogi," meddai.

Dywed Dr Denise Hill - sy'n arwain y gwaith ymchwil - mai hwn yw cam cyntaf yr ymchwil
Arweinydd yr ymchwil yw Dr Denise Hill ac mae hi yn disgrifio hwn fel y cam cyntaf.
"Os yw'n llwyddiannus, dylai'r canfyddiadau baratoi'r ffordd ar gyfer ymchwil pellach, ac os tybir bod trochi dŵr oer yn effeithiol, gallai arwain at ddatblygu llwybrau triniaeth newydd, hygyrch i'r rhai sydd â'r cyflwr PTSD," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022