Democratiaid Rhyddfrydol 'yn gobeithio ennill seddi ar draws Cymru'

Jane Dodds.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n sefyll dros ofal plant, dros ofal cymdeithasol a dros gael mwy o arian i awdurdodau lleol," meddai Jane Dodds

  • Cyhoeddwyd

"Dychmygwch beth allwn ni ei wneud efo mwy o bobl."

Dyna ran o gynnig y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wrth edrych ymlaen at yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.

Er taw dim ond un sedd sydd wedi bod gan y blaid ym Mae Caerdydd ers 2016, maen nhw wedi llwyddo i gael cryn ddylanwad.

Roedd Kirsty Williams yn weinidog addysg am bum mlynedd, ac yn fwy diweddar, pleidlais hollbwysig Jane Dodds ganiataodd i Lywodraeth Lafur Cymru basio'i chyllideb fis diwethaf.

Nawr mae gan Ms Dodds - arweinydd y blaid - ei golygon ar etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.

"'Da ni'n gobeithio ennill seddi ar draws Cymru," meddai.

'Canolbwyntio ar yr etholiad yma'

Felly beth yw cynnig y blaid?

"Wel, 'da ni'n sefyll dros ofal plant, dros ofal cymdeithasol a dros gael mwy o arian i fewn i awdurdodau lleol," meddai Jane Dodds.

"Dyna beth oedden ni'n ei wneud yn ystod y ddêl dros y gyllideb, ac mae pobl wedi dweud eu bod nhw'n croesawu hynny felly dyna be 'da ni'n canolbwyntio arno yn yr etholiad yma."

Ond dydy'r arolygon barn ddim mor bositif i'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'r pôlau piniwn yn gosod y blaid ar yr un lefel o gefnogaeth â'r Blaid Werdd, ac yn bell y tu ôl i Lafur, Plaid Cymru, Reform a'r Ceidwadwyr.

Richard Wyn jones.
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n anodd iawn dychmygu nhw'n ennill mwy nag un neu ddwy o seddi efo'r system newydd," meddai Richard Wyn jones am y Democratiaid Rhyddfrydol

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, bydd yr etholiad yn "dalcen caled" i Jane Dodds a'i phlaid, gyda'r newidiadau sydd i ddod i'r drefn etholiadol yn gwneud pethau'n fwy anodd, hyd yn oed os fydd mwy o seddi i'w hennill wrth i'r Senedd ehangu o 60 aelod i 96.

Mae'r newidiadau'n cynnwys creu 16 o etholaethau mawr newydd ar draws Cymru, trwy baru'r etholaethau oedd mewn lle ar gyfer yr etholiad cyffredinol y llynedd.

"Mae gynnon nhw gryfder hanesyddol yn rhywle fel Brycheiniog a Maesyfed, ond mae honno'n cael ei rhoi i fewn i sedd sy'n mynd i gynnwys llefydd lle does yna bron ddim presenoldeb.

"Felly a bod yn onest mae o'n anodd iawn dychmygu nhw'n ennill mwy nag un neu ddwy o seddi efo'r system newydd yma er bod y Senedd yn mynd i fod gymaint yn fwy."

Ychwanegodd Richard Wyn Jones fod y drefn bleidleisio gyfrannol fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer yr etholiad yn "sobor o anodd" i bleidiau llai.

"Mi allan nhw'n hawdd ffeindio'u hunain mewn sefyllfa lle maen nhw efo llai o seddi na fydden nhw'n eu haeddu os liciwch chi ar sail gyfrannol."

72 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin

Pwyntio at lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol y llynedd mae Jane Dodds wrth ymateb i'r arolygon barn.

Fe enillodd y blaid 72 o seddi yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ond dim ond un o'r rheiny oedd yng Nghymru, sef etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe sy'n cynnwys cymuned Ystradgynlais.

Ann Davies a Meiriona Davies.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Davies a Meiriona Davies yn cefnogi'r Blaid Lafur

Yng nghaffi Ti a Fi yng nghanolfan gwirfoddolwyr Ystradgynlais roedd yna flas o'r her sy'n wynebu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr ardal hon, yn enwedig nawr bod Castell Nedd a Dwyrain Abertawe yn rhan o etholaeth estynedig Brycheiniog Tawe Nedd.

"Ni'n Llafur a 'na diwedd y gân 'da fi," meddai Ann Davies dros baned.

"Meddyliwch nawr," meddai ei ffrind Meiriona Davies, "ni yn Ystradgynlais, o'dd collieries ymhobman 'ma".

"Dyna le o'dd pawb yn gweithio os nad oedd siop neu rywbeth gyda nhw.

"So beth arall y'n ni'n mynd i fod yn Ystradgynlais ond Llafur?"

Caroline Burke.
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl Ystradgynlais yn colli ffydd yn y Blaid Lafur, meddai Caroline Burke

Ond roedd merch Ann, a rheolwr y caffi - Caroline Burke, yn llai sicr.

Fe ddywedodd hi fod pobl leol yn colli ffydd yn y blaid Lafur, felly allai hynny arwain at fwy o gefnogaeth i blaid Jane Dodds?

"So' i'n gwybod pwy by' nhw'n cefnogi ond fi'n credu by' nhw'n cadw beth maen nhw'n gwybod."

Ar yr un pryd, yn ôl Caroline, mae "llwyth o bobl" yn troi at Reform.

Gweithio ym maes gofal cymdeithasol mae Mandy Austin, ond er gwaethaf llwyddiant Jane Dodds wrth sicrhau mwy o arian i ofal cymdeithasol yn rhan o gytundeb y gyllideb, ychydig iawn yr oedd Mandy yn ei wybod am y Democratiaid Rhyddfrydol.

"Bydd raid i fi dishgwl - I'll google it," meddai.

Pynciau cysylltiedig