Cynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd yn methu

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi wynebu galwadau iddo ymddiswyddo yn dilyn y beirniadaeth o wasanaethau mamolaeth

Mae ACau Llafur wedi trechu cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, dros fethiannau yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.

Galwodd Plaid Cymru am bleidlais yn y Senedd ar ddyfodol Mr Gething yn dilyn adroddiad beirniadol a ddywedodd fod gwasanaethau yn "gamweithredol".

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi dweud y dylid ei ddiswyddo.

Ond fe wnaeth gwelliant Llafur i'r cynnig - oedd yn cefnogi Mr Gething - basio yn y Senedd ddydd Mercher.

Methiannau 'dro ar ôl tro'

Rhoddodd Mr Gething wasanaethau dan fesurau arbennig yr wythnos diwethaf, pan ddatgelwyd methiannau yn Ysbytai Brenhinol Morgannwg a Thywysog Siarl yng nghymoedd y de.

Daeth hyn yn dilyn pryderon am farwolaethau nifer o fabanod yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, fod penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn uniongyrchol atebol i'r gweinidog.

"Dro ar ôl tro, mae'r gweinidog iechyd nid yn unig wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein GIG yng Nghymru ond mae wedi methu â chymryd cyfrifoldeb am fethiannau o'r fath hefyd," meddai.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies: "Mae'n gwbl annerbyniol bod Mr Gething yn dal i fod â chyfrifoldeb dros ofal iechyd yng Nghymru."

Ond yn y Senedd, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford amddiffyn Mr Gething, gan ddweud fod galwadau i'w ddiswyddo yn "bychanu" y sefyllfa.

Ychwanegodd: "Yr hyn sydd ei angen arnom yw ymateb difrifol, nid ymateb drwy chwilio am sgalp."

Roedd Mr Gething wedi rhoi "ymateb difrifol i sefyllfa wirioneddol ddifrifol, a dyna'r math o wasanaeth iechyd a dyna'r math o lywodraeth y credaf fod gan bobl yng Nghymru hawl i'w weld a pharhau i'w weld yn y dyfodol", meddai Mr Drakeford.