Cwm Taf: Galw am ddiswyddo penaethiaid a'r gweinidog iechyd

  • Cyhoeddwyd
Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar yn siarad yn y gynhadledd yn Llangollen yn gynharach ddydd Sadwrn

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar benaethiaid un bwrdd iechyd yng Nghymru a'r Gweinidog Iechyd i gael eu diswyddo wedi adroddiad beirniadol ar wasanaethau mamolaeth.

Fe wnaeth adroddiad ar wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf ganfod eu bod nhw o dan "bwysau difrifol".

Yn ol yr Aelod Cynulliad Darren Millar "does neb wedi cael y gwyleidd-dra i ymddiswyddo."

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi beio diwylliant "tocsig" am y problemau.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething mae'n benderfynol o weld gwelliannau.

'Angen trawsnewidiad radical'

Dywedodd Mr Millar hefyd bod angen diwygio'r ffordd y mae iechyd yn cael ei reoleiddio yn dilyn sgandal adran mamolaeth Cwm Taf.

Esboniodd yr AC Darren Millar ei fod am i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gael mwy o bwerau yn sgil yr adroddiad damniol i wasanaethau mamolaeth.

Fe ddaeth yr adolygiad i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dilyn pryderon am 26 o farwolaethau babanod yn yr ysbytai.

Yn siarad ar ail ddiwrnod cynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr, dywedodd Mr Millar bod angen "trawsnewidiad radical" i'r drefn arolygu iechyd.

Mae'n cynnig cynnydd sylweddol yng nghyllid AGIC, a mwy o arolygiadau heb rybudd.

Adleisiodd hefyd eiriau y Prif Weinidog Theresa May drwy alw am undod o fewn y blaid geidwadol a hynny wedi i'r Ceidwadwyr gael y canlyniadau gwaethaf yn yr etholiadau lleol ers 1995.

"Mae ein gwlad ein hangen ni," meddai.

"Dwi'n gwybod bod Brexit wedi ein rhannu ond mae'n rhaid i ni ddod nôl at ein gilydd i ymladd Llafur, i gynnig gobaith a newid i bobl Cymru er lles ein economi a'n gwasanaethau cymdeithasol ac er lles y genhedlaeth nesaf a'r GIG."

'Lleihau'r bwlch mewn cyfrifoldeb'

Wrth gyfeirio at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) eglurodd ei fod hefyd am weld y corff yn dod yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac yn cael pwerau newydd i ymyrryd yn gyflym os oes problemau'n cael eu darganfod.

Dywedodd Mr Millar y byddai'r newid yn "lleihau'r bwlch mewn cyfrifoldeb yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru" yn arbennig ar ôl i'r problemau yng Nghwm Taf gymryd mor hir i ddod i'r fei.

Bydd Mr Millar yn cyflwyno cyfres o syniadau yn ei araith yn y gynhadledd yn Llangollen yn ddiweddarach.

Fe alwodd Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ar y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething i ymddiswyddo oherwydd y canfyddiadau.

Dywedodd Mr Gething y byddai'n "camu lan" i'w gyfrifoldebau ac mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bellach dan fesurau arbennig.