Oedi ailasesiadau grant anabledd yn 'rhy hir'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ailasesiadau o bobl anabl sy'n anhapus â'r grantiau y maen nhw'n eu derbyn yn digwydd tan fis Gorffennaf.
Cafodd Grant Byw'n Annibynnol Cymru (WILG) ei ddileu y llynedd gan olygu mai cynghorau sir sydd bellach yn gyfrifol am ofalu am grantiau dros 1,000 o bobl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y byddai unrhyw un sy'n anhapus gyda'u pecynnau ariannol newydd yn cael cyfle i dderbyn ailasesiad annibynnol.
Yn ôl Plaid Cymru mae'r oedi hyn yn "lawer rhy hir". Mae'r llywodraeth wedi derbyn cais am ymateb.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru eu bod wedi clustnodi £60,000 er mwyn talu sefydliad annibynnol i gynnal yr ailasesiadau.
Y disgwyl yw y bydd sefydliad yn cael ei ddewis erbyn diwedd Mehefin, cyn i'r asesiadau ddechrau yng Ngorffennaf.
Mae £2.4m hefyd wedi ei gadw er mwyn delio ag unrhyw gostau ychwanegol posib wrth gynyddu maint y pecynnau ariannol.
'Achosi poen meddwl'
Mae 157 o'r 1,174 gafodd eu hasesu gan gynghorau cyn diwedd y llynedd wedi gweld eu grantiau yn lleihau.
Cafwyd amrywiaeth o ardal i ardal, gyda thoriadau yn fwyaf cyffredin yn Wrecsam, Casnewydd a Cheredigion.
Mae Leanne Wood, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, wedi cwestiynu os oes wir angen yr ailasesiadau hyn.
"Mae nifer o'r bobl hyn wedi derbyn gwobr am oes, ac mae mynd drwy ailasesiad yn gallu achosi poen meddwl gwirioneddol," meddai.
"Gallai'r ailasesiadau achosi problemau i rai, ond yn yr un modd mae angen datrys y mater mor sydyn â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019