Claf wedi'i anafu ar ôl tân mewn ysbyty yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae claf wedi cael ei anafu yn dilyn tân ar ward yn ysbyty mwyaf Cymru.
Mae'r dyn yn cael ei drin yn dilyn y tân bychan yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Iau.
Cafodd gweddill y cleifion o'r ward llawdriniaeth cardiothoracic a ward arall gerllaw eu symud o'r adeilad heb eu hanafu.
Mae swyddogion tân nawr yn ymchwilio i achos y tân yn ward De C5.
Mae cleifion o ward Gogledd C5 gerllaw wedi gallu dychwelyd i'r ward, tra bod cleifion De C5 yn parhau mewn rhan arall o'r ysbyty.