Warren Gatland i arwain y Llewod i Dde Affrica yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y trydydd tro i Warren Gatland arwain y Llewod

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi cytuno i fod yn brif hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2021.

Er nad yw wedi arwyddo cytundeb swyddogol, mae'r gŵr o Seland Newydd wedi cytuno ar delerau i arwain y tîm am y trydydd tro.

Mae Gatland eisoes wedi ennill cyfres yn Awstralia yn 2013 a sicrhau cyfres gyfartal yn erbyn y Crysau Duon yn 2017.

Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Syr Ian McGeechan ar y daith i Dde Affrica yn 2009.

Bydd Gatland yn gadael fel prif hyfforddwr Cymru ar ddiwedd Cwpan y Byd yn Japan ar ddiwedd y flwyddyn, gyda Wayne Pivac o'r Scarlets yn cymryd ei le.

Ers cymryd yr awenau gyda Chymru yn 2007 mae Gatland wedi ennill tair Camp Lawn - yr hyfforddwr cyntaf erioed i wneud hynny.