Warren Gatland yn cyhoeddi carfan Cwpan y Byd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi 42 o chwaraewyr fel rhan o'i garfan ehangach ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn yr hydref.
Mae llefydd i Rhys Carre ac Owen Lane o Gleision Caerdydd am y tro cyntaf, gyda Aaron Shingler a Taulupe Faletau yn dychwelyd o anafiadau.
Bydd Cymru'n herio Georgia yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 23 Medi, cyn wynebu Awstralia, Fiji, ac Uruguay yn eu gemau grŵp.
Cyn hynny - ym mis Awst a Medi - byddan nhw'n wynebu Lloegr ac Iwerddon ddwywaith fel rhan o'u paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd y garfan yn cael ei chwtogi i 32 chwaraewr erbyn dechrau mis Medi.
I ddechrau, bydd y garfan ehangach yn mynd i ardal Fiesch yn Alpau'r Swistir er mwyn ymarfer, ac yna i Dwrci ym mis Awst.
Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019
Blaenwyr (23): Leon Brown (Dreigiau), Rhys Carre (Gleision Caerdydd), Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Wyn Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Nicky Smith (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Bradley Davies (Gweilch), Cory Hill (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch), James Davies (Scarlets), Taulupe Faletau (Caerfaddon), Ross Moriarty (Dreigiau), Josh Navidi (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau).
Olwyr (19): Aled Davies (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Tomos Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Northampton Saints), Jarrod Evans (Gleision), Rhys Patchell (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Scott Williams (Gweilch), Josh Adams (Worcester Warriors), Hallam Amos (Dreigiau), Steff Evans (Scarlets), Leigh Halfpenny (Scarlets), Owen Lane (Gleision), George North (Gweilch), Jonah Holmes (Leicester Tigers), Liam Williams (Saracens).
Fe enillodd Cymru y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a hynny am y trydydd tro o dan arweiniad Gatland.
Bydd y gŵr o Seland Newydd yn gadael ei rôl yn dilyn Cwpan y Byd, gyda phrif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, yn cymryd ei le.
Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde y bydd yntau'n gadael ei swydd gyda'r tîm cenedlaethol ar ddiwedd 2019 i ymuno â Leinster yn Iwerddon.
Nid yw hi'n glir eto os bydd yr hyfforddwr amddiffyn, Shaun Edwards yn parhau fel rhan o'r tîm hyfforddi tu hwnt i Gwpan y Byd.