Cynllun i adeiladu canolfan seiclo £1.2m yn Y Fenni

  • Cyhoeddwyd
BeicioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn mynnu bod galw uchel am gyrchfan seiclo o'r fath

Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu canolfan seiclo gwerth £1.2m yn Y Fenni i geisio denu rhagor o ymwelwyr i'r dref.

Ers 2013 mae Cyngor Sir Fynwy a chorff Beicio Cymru wedi bod yn ceisio sefydlu canolfan ranbarthol i droi'r dref yn gyrchfan i seiclwyr.

Y nod yw adeiladu'r traciau yn ardal Llan-ffwyst i safon genedlaethol, gyda'r gobaith o gynnal digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yno.

Mae'r dyluniad cychwynnol yn dangos dau lwybr - un 500 metr ac un 900 metr, ond mae cynllun i gael gwared ar y llwybr byrrach i wneud lle i un arall 1.5 cilometr o hyd.

'Galw uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'r ganolfan yn unigryw am fod y mwyafrif o lwybrau o'r math yma ar dir gwastad.

"Bydd y safle yn debygol o gynnwys un allt heriol a byddai o fudd i wylwyr hefyd, am y byddan nhw'n gallu gweld y trac i gyd o un lleoliad," meddai'r llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyngor yn mynnu bod galw uchel am gyrchfan o'r fath, gyda 24 o glybiau seiclo o fewn 20 milltir i'r Fenni.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru i ddatblygu'r syniad ymhellach.

Y nod yw gwario'r arian ar sicrhau caniatâd cynllunio er mwyn dechrau'r gwaith adeiladu ym mis Mawrth 2020.

Bydd cynghorwyr yn trafod y mater mewn cyfarfod ddydd Iau.