Uwch-gynghrair: Manchester United 0-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Mendez-Laing wedi sicrhau pedair gôl i'r Adar Gleision y tymor hwn
Mae Caerdydd wedi ennill yn Old Trafford am y tro cyntaf ers 1954, gan guro Manchester United o ddwy gôl i ddim.
Daw'r canlyniad - diolch i gôl ym mhob hanner gan Nathaniel Mendez-Laing - ar ddiwnod ola tymor yr uwch-gyngrhair.
Er gwaetha'r tri phwynt brynhawn Sul cafodd tranc Caerdydd ei benderfynu wythnos yn ôl, ac fe fydd yr Adar Gleision yn chwarae eu pêl-droed yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf wedi un tymor yn unig yn yr uwch-gynghrair.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daeth gôl gyntaf Caerdydd wedi 23 munud diolch i gic o'r smotyn, pan gafodd Diogo Dalot ei gosbi am dacl flêr yn erbyn Mendez-Laing, cyn i'r asgellwr godi ar ei draed a rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.
Fe lwyddodd gôl-geidwad Caerdydd arbed sawl ymgais gan chwarewyr Manchester United i unioni'r sgôr, ond ofer oedd eu hymdrechion, gyda Mendez-Laing yn selio'r fuddugolaeth wedi 54 munud, ac yn sicrhau tri phwynt i Gaerdydd.
Mae'r golled heddiw'n golygu bod Manchester United wedi colli chwech o'u saith gêm ddiwethaf yn yr uwch-gynghrair, gan roi pwysau ychwanegol ar eu rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019