Aduniad trigolion gwersyll Pwylaidd ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddigwyddiad emosiynol yn Wrecsam dros y penwythnos wrth i 100 o bobl oedd â chysylltiad â'r gwersyll Pwylaidd yn Llannerch Banna ddod at ei gilydd.
Doedd nifer ohonynt ddim wedi gweld ei gilydd ers blynyddoedd.
Rhan o ysbyty milwrol Americanaidd oedd adeiladau'r ysbyty ym mhentref Llannerch Banna yn wreiddiol ond wedi ymadawiad yr Americanwyr ar ddiwedd y rhyfel fe ddaeth yn gartref i Bwyliaid.
Fe gyrhaeddodd y Pwyliaid yn 1946 wedi taith hir ac anodd ar draws cyfandir Ewrop ar ôl brwydro yn erbyn y Natsïaid a Byddin Goch yr Undeb Sofietaidd.
Roedd ar agor tan 2002, ac yn ei anterth, roedd yna dros 2,000 o gleifion a staff yno.
Dywedodd curadur yr arddangosfa, Jonathon Gammond ei fod yn le "unigryw, fel rhyw wlad hud a lledrith Pwylaidd" oedd yn cynnwys sinema, capel a chlwb hamdden.
Ar hyn o bryd mae arddangosfa tairieithog yn Amgueddfa Wrecsam yn adrodd hanes yr ysbyty.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys hanesion llafar ynghyd â detholiad o ffilmiau sine gafodd eu recordio yn y 1960au gan fachgen yn ei arddegau, Andy Bereza, a gafodd ei fagu yn y gwersyll gan fod ei dad yn feddyg yno.
Roedd ef a'i frawd ymhlith y ddau a oedd wedi dod yn ôl i gyfarfod ffrindiau ddydd Sadwrn.
Wrth gofio am ei gyfnod yn y gwersyll rhwng y 1950au a 1970au dywedodd Stanislaw Bereza ei bod fel "byw yng Ngwlad Pwyl fechan ynghanol Cymru - roedd pobl yn falch iawn o'n derbyn ni ac yn groesawgar."
'Nifer wedi colli plant'
Un arall oedd yn bresennol yn y digwyddiad oedd Mona Edwards a fu'n nyrs yn y gwersyll am dros 25 mlynedd.
Dywedodd Mrs Edwards: "Mae wedi bod yn braf cwrdd â hen ffrindiau dwi ddim wedi'u gweld ers blynyddoedd. Roedd profiadau oedd y rhai a ddaeth atom yn anhygoel.
"Roedd nifer ohonynt wedi colli plant - roeddent yn bobl hynod o ddewr.
"Mae'n braf bod yma heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019