Dirwy o £17,170 am dorri amodau cynllunio yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
The Ridgeway, Maenorbŷr Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Scarfe wedi datblygu cae ger The Ridgeway, Maenorbŷr Newydd heb ganiatâd

Mae dyn o Sir Benfro wedi cael ei ddirwyo am ddatblygu tir a symud carafanau ar y safle heb ganiatâd cynllunio.

Rhoddwyd dirwy o £17,170 i Richard Scarfe o Ddoc Penfro am anwybyddu dau hysbysiad gorfodi a hysbysiad atal dros dro dros gyfnod o bedair blynedd.

Cafodd yr achos gorfodi cynllunio ei gyflwyno gerbron Llys Ynadon Aberdaugleddau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd pennaeth rheoli datblygiad y Parc Cenedlaethol, Nicola Gandy, bod Scarfe wedi datblygu'r safle "er gwaethaf hysbysiad gorfodi clir gan yr Awdurdod".

'Safle sensitif'

Clywodd y llys bod Scarfe wedi datblygu cae ger The Ridgeway, Maenorbŷr Newydd, ac wedi symud carafanau statig i'r safle heb ganiatâd.

Ychwanegodd Ms Gandy: "Fe aeth y gŵr lleol ati'n fwriadol ac o'i wirfodd i ddatblygu'r safle sensitif hwn yn raddol am bedair blynedd.

"Mae'r ddirwy'n adlewyrchu difrifoldeb y tor-amod, ac rydyn ni'n falch iawn o'r canlyniad sy'n cydnabod natur ddifrifol y drosedd hon".

Dywedodd Cadeirydd y fainc ynadon: "Un o'r breintiau sy'n gysylltiedig â byw ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw bod yr amgylchedd yn cael ei gadw ar gyfer y boblogaeth gyfan, yn awr ac yn y dyfodol.

"Mae'r drosedd yn waeth byth gan eich bod wedi parhau i ddatblygu'r safle er gwaethaf rhybuddion cyson yn eich cynghori i beidio â gwneud hynny."

Penderfynodd yr ynadon gyflwyno dirwy o £15,000 i Scarfe a chafodd ei orchymyn i dalu £2,000 o gostau ynghyd â £170 o daliad ychwanegol.