Cadair goll Eisteddfod 1819 yn 'stori o ddirgelwch'

  • Cyhoeddwyd
Tudur Dylan Jones a chadair wreiddiol Eisteddfod 1819
Disgrifiad o’r llun,

Tudur Dylan Jones a chadair wreiddiol Eisteddfod Genedlaethol 1819

Union 200 mlynedd ers i'r Eisteddfod ymweld â Chaerfyrddin, bydd gŵyl yn cael ei chynnal yn y dref eleni i ddathlu'r garreg filltir.

Yn yr Eisteddfod hon y cafwyd y cysylltiad cyntaf â Gorsedd y Beirdd, ac ac am y tro cyntaf hefyd cyflwynwyd cadair ar gyfer seremoni'r bardd buddugol.

Mae'r gadair honno'n cael ei harddangos yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili ar gyrion y dref.

Ond mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu fod cadair arall wedi ei chyflwyno i brifardd Eisteddfod 1819.

"Mae hon yn stori o ddirgelwch," meddai un o drefnwyr yr ŵyl, y prifardd Tudur Dylan Jones.

"Gwallter Mechain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant enillodd y gadair yn Eisteddfod Caerfyrddin 1819.

"Yn y cyfnod hwnnw, ni roddwyd y gadair i'r bardd buddugol i'w chadw, ac felly cafodd y gadair gartref yn Rheithordy Llangynnwr."

Disgrifiad o’r llun,

Iolo Morgannwg oedd un o feirniaid cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod 1819

Ond wrth baratoi cyfrol ar gyfer dathlu'r 200 mlwyddiant, mae Tudur Dylan Jones a chriw o feirdd o Ysgol Farddol Caerfyrddin wedi dod o hyd i wybodaeth sy'n awgrymu fod cadair arall wedi ei chyflwyno i Gwallter Mechain.

"Yr arferiad oedd y byddai prifeirdd y cyfnod hwn yn cael medalau ac yn aml iawn byddai llun cadair ar y fedal," meddai.

"Fe gafodd Gwallter Mechain - sef y Parchedig Walter Davies - fedal, ac mae tystiolaeth fod y gadair sydd bellach yn yr amgueddfa wedi ei defnyddio mewn sawl Eisteddfod leol yn ardal Caerfyrddin wedi hynny.

"Mae'r fedal a dderbyniodd o bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan…

"Wedyn digwydd gweld mewn llyfr fod yna gadair wedi ei chyflwyno i Gwallter Mechain, ryw flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, yn agos i le'r oedd o'n byw ar y pryd a gweld hynny'n rhyfedd, a dechrau meddwl a oedd yna ddwy gadair.

'Calon Wrth Galon'

"A wedyn gweld cyfeiriad mewn papur newydd yn y flwyddyn 1898 am arwerthiant yn Neuadd Trawscoed yng Nghegidfa, Sir Drefaldwyn, ac mae 'na sôn am gadair yn y catalog:

'A very handsome oak bardic chair with Welsh inscription and silver shield, with motto 'Calon Wrth Galon', formerly the property of the Reverend Walter Davies... This without doubt was the Carmarthen chair of 1819.'

Mae Tudur Dylan Jones yn meddwl felly fod yna ddwy gadair yng Nghaerfyrddin yn 1819.

Dywedodd: "Os oes yna bobl allan yna gyda rhyw gadair fach â phlac arian arni, yn d'eud 'Calon Wrth Galon', mi fysen ni'n falch iawn o gael clywed!"

Bydd Gŵyl yr Orsedd yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin rhwng 1-13 Gorffennaf.