Telyn deires? Mae gan hon 20 braich!

  • Cyhoeddwyd

Y tro nesa' byddwch chi'n cwyno wrth geisio gwasgu'r delyn i gefn y Volvo brathwch eich tafod a chofiwch am y llun anhygoel yma...

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Oherwydd dyma'r delyn Soveida - offeryn newydd gyda 20 braich sydd nid yn unig yn edrych yn drawiadol ond yn creu sŵn arallfydol hefyd.

Dim ond un ohonyn nhw sydd yn bodoli - a Chymraes ydi'r unig berson yn y byd sy'n gallu ei chwarae.

Cafodd yr offeryn ei adeiladu yn Iran a'i gludo drosodd i gartref Sioned Williams yn Llundain fis Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Williams gydo'r delyn Soveida

Ers hynny mae cyn brif delynores Cerddorfa Symffoni'r BBC wedi bod yn ceisio datrys sut i'w chwarae a beth sy'n bosib ei chyflawni gyda hi.

A'r newyddion da ydi bod yr offeryn yn plesio.

Meddai Sioned Williams: "Mae'n ofnadwy o ran bod yn ymarferol, efo'i symud hi, mae'n cymryd dwy awr i'w gosod i fyny, ac mae'n rhaid cael lle digon mawr iddi.

"Rydyn ni wedi gorfod symud dodrefn yn y tŷ a does dim bwrdd bwyd yn yr ystafell erbyn hyn - mae'n huge.

"Mae wedi bod yn oriau ac oriau ac oriau bob dydd jest i ffeindio allan beth allwn ni wneud efo'r offeryn, ond mae beth sydd wedi ei greu yn brilliant yn y diwedd ond bod o jest â lladd fi yn y broses!"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Popeth yn ei le? Mae'n cymryd dwyawr i osod y delyn at ei gilydd

Ffrwyth dychymyg y cerddor Amir Konjani ydi'r delyn Soveida. Bu'n gweithio ar y syniad am ddwy flynedd ond ar ôl ennill lle ar gynllun Jerwood Composer+ y London Symphony Orchestra fe benderfynodd fwrw ymlaen i greu'r offeryn.

Bu'r cyfansoddwr o Iran yn trafod sut sŵn oedd o am ei glywed gyda'r gwneuthurwr telynau Meistr Abasi o Tehran.

Cafodd yr offeryn ei dylunio'n arbennig i Sioned Williams a bu hi draw yn Iran - lle mae'r delyn yn offeryn traddodiadol - dros y Nadolig i roi cynnig arni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Williams gyda'r cerddor a dylunydd y delyn Amir Konjani

A dros y penwythnos bydd yr offeryn - a'r sain - yn cael ei ddadorchuddio mewn cyngerdd gan yr LSO in Chamber yn Llundain.

Bydd clip o'r perfformiad i'w weld ar Cymru Fyw yn fuan.

Meddai Sioned Williams: "Allai jest ddim disgrifio fo, allai wir ddim.

"Mae'r darnau copr sy'n dod allan o'r delyn efo pethau fel conches ar eu blaen nhw - fel pibau organ allan o bren.

"Ar flaen y twll mae croen fel drwm tombak - drwm bach o Iran. Mae sbring yn cysylltu efo rhai o dannau'r delyn ac yn mynd i'r drwm.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Paratoi at y perfformiad - gyda sgôr graffeg ar y llawr

"Felly pan mae rhywun yn chwarae'r nodyn mae rhywun yn clywed sain y tannau a seiniau gwahanol fel sŵn buzzio neu sŵn drwm - ond ddim drwm arferol ond fel echo, ac mae'r sain o'ch cwmpas chi ac yn mynd ar draws yr adeilad i gyd.

"Mae o mor gyffrous - dwi wrth fy modd efo'r sŵn. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, ond allwch chi jest ddim cymharu efo sŵn telyn arferol - maen nhw fel dau offeryn gwahanol."

Bydd tri pherfformiad o To Be Someone Else is a Battle, gan Amir Konjani, yn LSO St Luke's, Llundain, brynhawn Sadwrn, 18 Mai.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw