Cyfarfod cyntaf dwy ffrind ers diwedd yr Ail Ryfel Byd
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ffrind wedi cyfarfod am y tro cyntaf mewn 76 o flynyddoedd, ar ôl cael eu symud i gefn gwlad Cymru yn yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Mable Gower a Wendy Duff ymysg grwpiau o ferched gafodd eu haddysg yng Nghastell Powis ger Y Trallwng.
Roedd y perchennog, Yr Arglwydd Powis, wedi caniatáu i'w gartref fod yn ysgol i'r plant oedd wedi gorfod gadael Llundain.
Fe wnaeth Mable a Wendy, y ddwy yn 92 oed, gyfarfod wrth i arddangosfa agos yn nodi hanes y castell, 80 mlynedd ers dechrau'r rhyfel.
'Heb newid o gwbl'
Fel canghellor yr Ysgol Gymraeg i Ferched yn Ashford, tu allan i Lundain, fe symudodd Arglwydd Powis yr ysgol i'w gartref yng nghanolbarth Cymru.
Ac felly fuodd hi rhwng 1939 a 1946, gyda muriau'r castell yn ceisio gwarchod y disgyblion rhag hunllefau'r rhyfel.
Mae Mable a Wendy yn cofio eu hathrawon a gweu sanau a balaclafas i'r lluoedd arfog fel rhan o'r ymdrech rhyfel.
"Dydyn ni heb gyfarfod ers gadael yr ysgol... ond ti heb newid o gwbl," meddai Mable wrth ei hen ffrind.
Soniodd Mable bod yr oedolion yn bod yn ofalus rhag datgelu gormod am realiti'r rhyfel.
Ond mae Wendy'n cofio un tro pan gafodd y disgyblion eu "casglu fewn i'r stafell biliards" i wrando ar y newyddion.
"Fe ddaeth y brifathrawes a'i radio fewn o'i stafell yn fanno, a dyna pryd dechreuon ni gyd wrando ar ganlyniad Brwydr El Alamein... ond fe dd'wedodd neb wrthon ni yn lle'r oedd El Alamein," meddai.
'Sanau neu sgarffiau?'
Er eu bod nhw'n ddisgyblion ysgol, roedd 'na ddisgwyl i'r disgyblion dorchi llewys fel pawb arall.
"Roedden nhw'n ein hatgoffa ni o'r milwyr a beth oedden nhw eisiau... sgarffiau, gardysau a balaclafas. Doedden ni ddim yn cael gwastraffu dim amser," cofiai Mable.
"Bob eiliad sbâr oedd gennym ni, roedden ni'n gwneud sanau," meddai Wendy.
"Dwi'n cofio nhw'n dweud wrthym ni: 'Pa un fysa'n well gennych chi, sanau neu sgarffiau?' Ac fe gyrhaeddais i'r pwynt lle doedd dim rhaid i mi stopio i edrych ar y patrwm."
Ar ôl gorffen eu haddysg uwchradd, fe aeth Mable a Wendy ar eu liwt eu hunain i brifysgolion yn Llundain a chanolbarth Lloegr.
Ac maen nhw'n dal i gofio atgofion melys o'u cyfnod ym Mhowys.
"Dydyn ni heb golli dim amser mewn ffordd," meddai Wendy.
Esboniodd Mable ei bod hi'n "ddiolchgar iawn o fod wedi byw mor hir".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013