Pa mor iach oedd bwyd Cymru yn y canol oesoedd?
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Llŷr Serw ap Glyn, sy'n hoffi coginio traddodiadol
Pizza, rogan josh, pasta, kebab... dyma rai o fwydydd mwyaf cyffredin y Cymry erbyn hyn.
Ydi, mae cinio Sul dal ar y fwydlen ond nid yn aml mae bwydydd traddodiadol Cymreig yn cael eu bwyta bellach.
Felly beth oedd ar ein bwydlenni ni cannoedd o flynyddoedd yn ôl? Pa mor iachus oedd y bwydydd yna?
Bara o risgl coed...?
Roedd pethau'n wahanol iawn ganrifoedd yn ôl. Bryd hynny roedd deiet rhan fwyaf o bobl Cymru yn syml iawn.
Nid oedd llysiau mor gyffredin â heddiw - rhaid cofio na ddaeth tatws yma tan ganol y 1500au a moron yn hwyrach na hynny hyd yn oed - ac nid oedd llawer o bobl yn tyfu llysiau gartref.
Nid oedd bara yn gyffredin oherwydd bod cynaeafau'n methu yn aml.
Roedd newyn yn taro'r wlad bob tua saith mlynedd ac roedd pobl weithiau yn gwneud math o does neu fara drwy ddefnyddio rhisgl coed!
Yr unig ffrwythau ar gael oedd beth bynnag oedd yn tyfu'n wyllt.
Roedd bobl Cymru yn dibynnu llawer ar gig, menyn, llaeth ac uwd. Roedd cig a physgod yn cael eu halltu er mwyn eu gwneud yn hawdd i'w storio am gyfnod hir.
Roedd pobl cyfoethog yn bwyta bwydydd fel 'adar mewn bara'.
Math o bastai oedd hwn ond bod y crwst yn feddalach ac yn cynnwys llawer iawn o wyau. Tu mewn mae'n debyg byddai cig aderyn.
Yr aderyn mwyaf i gael ei fwyta oedd paun. Hefyd ar y fwydlen oedd elyrch wedi eu pluo a'u rhostio a'u bwyta gyda saws sinsir, mwstard a finegr.

Dant melys
Un arfer gwahanol iawn i heddiw oedd rhoi siwgr ar gigoedd a llysiau a chymysgu bwydydd melys a sawrus yn yr un pryd bwyd.
Roedd siwgr gwyn yn cael ei brynu mewn lympiau mawr yn y canol oesoedd ac roedd cogyddion yn rwbio dau lwmp yn ei gilydd fel bod y siwgr yn syrthio'n un gawod o bowdwr ar ben y bwyd nes ei fod wedi ei guddio bron.
Felly doedd dim pwdin ar ôl bwyd. Roedd y pryd melys yn cael ei weini 'run pryd â phopeth arall!
Cadw cegin o'r gorffennol
Un sy'n coginio bwyd o'r canol oesoedd yw Llŷr Serw ap Glyn o Lanrwst. Ef oedd y cogydd ar raglen deledu S4C Y Llys, pan aeth â chriw o bobl i fyw am dair wythnos, fel pobl yn yr 1500au.
Roedd Llŷr yn coginio bwyd bob dydd gan ddefnyddio technegau o'r gorffennol.
"Mae coginio bwyd o'r canol oesoedd yn dipyn o waith. Mae'n dasg llawn amser i gadw'r tân i fynd!" meddai.

Llŷr oedd y cogydd ar raglen Y Llys a oedd yn ail-greu llys o 1525
"O ran bwyd y bobl gyffredin, digon hawdd fyddai ail-greu'r rhain mewn cegin fodern: mater o ferwi llysiau, ychydig o gig a barlys neu geirch am ychydig oriau i wneud potage.
"Mae paratoi gwledd yn fwy o gamp, gan fod angen rhostio darnau mawr o gig, weithiau anifail cyfan fel mochyn neu hwyaden.
"Roedd pwyslais mawr ar addurno bwyd, a'i wneud mor wacky â phosib, fel rhoi pen mochyn ar gorff gŵydd!"
Mewn rhai tai mawr roedd yn arferiad i roi llwch aur ar ben bwyd melys er mwyn dangos eu cyfoeth.
Ond er ei fod yn fwyd eithaf 'ecsotig' nid oedd deiet y cyfnod yn un iach iawn.
Roedd pobl yn bwyta llawer o gig felly nid oedd llawer o ffeibr yn y deiet gan nad oedd llawer o ffrwythau, llysiau, ffa a bwydydd carbohydrad yn cael eu bwyta.
Felly efallai fod yr hen ffordd Gymreig o fyw (a bwyta) yn syniad gwael i ni heddiw.
Geirfa
cyffredin / common
bwydlen / menu
traddodiadol / traditional
canrifoedd / centuries
tatws / potatoes
moron / carrots
hyd yn oed / even
cynaeafau / harvests
newyn / famine
toes / dough
bara / bread
rhisgl coed / bark of a tree
ffrwythau / fruit
gwyllt / wild
dibynnu / depend
uwd / porridge
pysgod / fish
halltu / to salt
cyfoethog / rich
pastai / pasty
crwst / crust
meddalach / softer
paun / peacock
elyrch / swans
pluo / to feather
saws / sauce
sinsir / ginger
melys / sweet
sawrus / savoury
canol oesoedd / middle ages
syrthio / to fall
cuddio / to hide
pwdin / pudding
technegau / techniques
gorffennol / past
tân / fire
berwi / to boil
barlys / barley
ceirch / oats
gwledd / feast
camp / achievement
pwyslais / emphasis
addurno / to decorate
corff / body
gŵydd / goose
llwch aur / gold leaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd3 Ebrill