Angen newid y ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu - Eluned Morgan

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth BBC Politics Wales bod angen newid y system ariannu
- Cyhoeddwyd
Dydy Prif Weinidog Cymru ddim am barhau i fynd "ar ofyn" San Steffan gan alw am newid i'r system ariannu.
Mae Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi eisiau gweld y ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu'n newid am byth.
Ond dywedodd hi ddim a oedd hyn yn rhywbeth yr oedd Llywodraeth y DU yn ei ystyried.
Dywedodd Ms Morgan hefyd y gallai'r sefyllfa yn y Dwyrain Canol rhwng Israel ac Iran effeithio ar gynlluniau economaidd Cymru yn y dyfodol.

Mae gwariant ar y rheilffyrdd wedi bod yn bwnc llosg o fewn gwleidyddiaeth Cymru
Mewn Adolygiad Gwariant yr wythnos hon, addawodd llywodraeth Lafur y DU £445m ar gyfer prosiectau rheilffyrdd yng Nghymru yn ogystal â £118m ar gyfer adfer tomenni glo ac arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru ac ASau Llafur Cymru wedi pwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o arian i Gymru i ddangos manteision cael dwy lywodraeth Lafur.
Mae'r gwrthbleidiau wedi dweud nad yw Cymru'n dal i gael ei hariannu'n deg, ac mae galwadau hirdymor am newid y fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu ar y cyllid hwnnw.
Ar ymweliad â de Cymru ddydd Gwener, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves ei bod wedi rhoi "popeth y gofynnodd llywodraeth Cymru amdano".
Arweiniodd hyn at Blaid Cymru'n cyhuddo Eluned Morgan ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, o beidio â gwneud digon dros Gymru.
'System annheg'
Dywedodd Joe Rossiter, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymreig: "Dylai penderfyniadau ar ddyrannu gwariant fod yn anwleidyddol a chynrychioli ffordd dechnegol o sicrhau cyfran deg o gyllid i Gymru.
"Ni ddylai bod rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymladd dros gyllid teg."
Dywedodd Eluned Morgan mai "sicrhau sail i ddyfodol economaidd Cymru" sy'n bwysig iddi "oherwydd dydw i ddim eisiau parhau i fynd ar ofyn" San Steffan".
"Rydym wedi cael system annheg ers amser hir iawn. Mae angen i ni ddal i fyny. Mae yna ffordd bell i fynd, felly dyma'r dechrau," meddai.
"Byddwn yn ymladd am lawer eto, ond a oes angen sicrhau bod yna system well fel ein bod yn sicr o gael canran ni'n ei haeddu? Heb os."
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Gofynnwyd i Eluned Morgan a oedd y newidiadau systemig hynny'n debygol o ddigwydd ai peidio, ond ni atebodd y cwestiwn hwnnw'n uniongyrchol.
Fe ddaw mwyafrif helaeth o gyllid Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, drwy'r hyn sy'n cael ei alw yn grant bloc.
Mae'r swm yn cael ei benderfynu gan fformiwla Barnett sy'n edrych ar faint y mae Llywodraeth y DU yn ei wario ar faterion datganoledig fel iechyd ac addysg yn Lloegr.
Mae prosiectau seilwaith a datblygiadau untro yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol ond mae yna alwadau i ddiwygio'r system gyfan.
'Sarhad i bobl Cymru'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r cyhoeddiad gwariant ar y rheilffyrdd fel "sarhad i bobl Cymru", ac ni ddylai hyn fod yn rhybweth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddathlu.
Yn ôl Plaid Cymru dyw'r arian yn ddim i gymharu â'r "biliynau sy'n ddyledus i Gymru".
Dywedodd Heledd Fychan: "Mae peidio â gofyn am yr hyn sy'n ddyledus i ni hyd yn oed wedi bod yn fethiant gan Lywodraeth Cymru.
"Maen nhw'n brin o uchelgais, yn brin o weledigaeth, a dydyn nhw ddim yn barod i frwydro."
'Ddim yn imiwn i sefyllfa'r Dwyrain Canol'
Dywedodd Eluned Morgan hefyd y gallai'r sefyllfa yn y Dwyrain Canol effeithio ar gynlluniau economaidd yn y dyfodol.
Wrth ymateb i ddatblygiadau dros y penwythnos yn y gwrthdaro rhwng Iran ac Israel, dywedodd "ei bod yn bryderus iawn".
Ychwanegodd: "Mae'r goblygiadau'n ddifrifol nid yn unig i'r Dwyrain Canol ond i ni yma hefyd. Bydd sgil-effeithiau i'w gweld, er enghraifft ar bris petrol.
"Dydyn ni ddim yn imiwn i'r hyn sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.