O'r Almaen i Tafwyl i ymarfer ei Gymraeg

Jason HuFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Jason Hu

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn gafodd ei eni yn yr UDA, ei fagu yng Ngwlad Groeg, sy'n byw yn yr Almaen ac wedi dysgu Cymraeg mewn blwyddyn yn dod i Gymru am y tro cyntaf i fwynhau Tafwyl.

A bydd Jason Hu yn sgwrsio efo pawb mewn tafodiaith ogleddol gan ei fod o'n ffan o Rownd a Rownd.

Ond doedd ganddo ddim bwriad dysgu Cymraeg o gwbl tan iddo ddod ar draws yr iaith wrth geisio dysgu iaith y Basg - ac roedd yr unig eiriadur roedd o'n gallu ei ffeindio ar y we mewn gwlad doedd o'n gwybod dim amdani.

Dod ar draws y Gymraeg ar ddamwain

Does gan Jason Hu ddim cysylltiad o gwbl efo Cymru. Un o Galiffornia ydi o'n wreiddiol, gyda gwreiddiau ei deulu yn Taiwan. Fe dreuliodd rhan o'i blentyndod yn Athen, cyn mynd yn ôl i Galiffornia i astudio mathemateg.

Mae o bellach yn gweithio fel gwyddonydd data i lywodraeth yr Almaen.

"Roedd gen i wastad ddiddordeb mawr mewn ieithoedd ac ro'n i eisiau dysgu Basgeg yn wreiddiol," meddai mewn sgwrs ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Ond pan nes i chwilio am eiriadur Basgeg-Saesneg do'n i methu ffeindio copi yn Ewrop heblaw am un yn Aberystwyth - sef un gan Lyn Lewis Dafis oedd yn gweithio i'r Llyfrgell Genedlaethol, felly o'n i'n prynu'r llyfr yma."

Ond roedd clywed am Gymru a'i hiaith wedi ennyn ei ddiddordeb.

"Ro'n i'n teimlo yn chwilfrydig iawn ac ro'n i eisiau dysgu mwy am yr iaith yma," meddai.

"Do'n i'n gwybod dim byd am Gymru cyn dechrau dysgu tipyn bach mwy felly nes i sylwi ar gyrsiau ac mi ddes i ar draws cyrsiau gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac ro'n i eisiau dechrau."

Torf TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tafwyl wedi cael ei chynnal mewn sawl lleoliad yn y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd. Fe fydd ym Mharc Biwt unwaith eto eleni - ar 14-15 Mehefin

Ac felly ers Ionawr 2024 mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ar gyrsiau ac wrth wylio rhaglenni ar y radio a theledu.

Ond roedd un penbleth ganddo - doedd o methu penderfynu a ddylai o ddysgu tafodiaith y de neu'r gogledd.

Felly fe ddechreuodd ddysgu'r ddwy tan iddo ddechrau gwylio'r gyfres Rownd a Rownd ar S4C, a dewis iaith y Gogs.

Nawr, mae o a'i gariad - sydd ddim yn siarad gair o Gymraeg - wedi trefnu dod i Gymru am y tro cyntaf, ac yn bwriadu mynd i Tafwyl y penwythnos yma.

Meddai: "Dwi'n hoff iawn o Fleur de Lys - mae 'na ganeuon anhygoel o dda ganddyn nhw. A hefyd Adwaith a llawer iawn o fandiau hefyd.

"Dwi 'di bod yn gwylio Y Llais ar S4C ac ro'n i'n synnu pa mor dda mae pawb yn gallu canu."

Cymru yn 'hyfryd iawn'

A dyna un o'r pethau mae o'n ei hoffi am Gymru - ei diwylliant a phwysigrwydd cerddoriaeth.

"Mae'n bwysig iawn i fedru dysgu unrhywbeth mae rhywun eisiau ac mae diwylliant Cymru'n ddiddorol dros ben ac o'n i eisiau dysgu mwy a chymryd rhan weithiau," meddai.

"Mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi cerddoriaeth a llenyddiaeth yn fawr iawn a dyma rywbeth dwi'n colli o fy niwylliant i achos pan o'n i yn Taiwan mae pawb isio gweithio a dydyn nhw ddim yn rhoi digon o amser i wneud pethau pwysig fel mwynhau cerddoriaeth neu fyw efo natur.

"Dwi'n ffeindio bod Cymru yn hyfryd iawn achos mae'n bosib neud peth fel yna."

Ac mae'n gobeithio y bydd dod i Gymru nid yn unig yn rhoi'r cyfle iddo fwynhau'r holl gerddoriaeth dros ddeuddydd o'r ŵyl yng Nghaerdydd, ond hefyd i fedru ymarfer ei Gymraeg - sy'n gallu bod yn anodd.

Meddai: "Achos dwi'n byw dramor mae'n anodd dod o hyd i bobl i siarad efo nhw achos yn Yr Almaen dwi'n gwybod bod 'na bobl sy'n dysgu hefyd ond dim yn yr un ddinas - maen nhw'n byw yn Berlin neu rywle arall."

Felly os ydych chi'n mynd i Tafwyl ac yn gweld Jason, ewch draw i godi sgwrs.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.