Gerwyn Price a Jonny Clayton yn colli yn ffeinal Cwpan Dartiau'r Byd

Roedd Gerwyn Price a Jonny yn gobeithio ennill Cwpan y Byd am y trydydd tro ers 2020
- Cyhoeddwyd
Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi dod o fewn trwch gwifren i ennill Cwpan Dartiau'r Byd 2025 dros Gymru ar ôl colli yn erbyn Gogledd Iwerddon yn y ffeinal.
Ar ôl dod yn ôl i guro'r Iseldiroedd 8-5 yn y rownd gynderfynol, roedd Josh Rock a Daryl Gurney yn drech na Price a Clayton 10-9 mewn clasur yn yr Almaen nos Sul.
Mae'r gystadleuaeth i barau wedi cael ei chynnal yn Frankfurt eleni, gyda Price a Clayton wedi gobeithio ennill am y trydydd tro dros Gymru ers 2020.
Y ffefrynnau oedd Luke Littler a Luke Humphries o Loegr - ond fe gollon nhw yn annisgwyl yn rownd yr 16 olaf yn erbyn y tîm cartref, yr Almaen.
Fe enillodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Ynysoedd Philippines o 8-2, cyn trechu Hong Kong o 8-4 yn rownd yr wyth olaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020