Lle mae'r gwenoliaid eleni?

  • Cyhoeddwyd
gwennol
Disgrifiad o’r llun,

Gwennol

Un wennol ni wna wanwyn meddai'r dywediad, ond mae'n ymddangos bod rhai yn poeni bod yr adar yn cadw draw yn llwyr eleni.

Fe wnaeth Angharad Penrhyn fynegi ei phryder ar Trydar gan ddweud bod diffyg byd natur o'i chwmpas yn ei dychryn:

Ffynhonnell y llun, Twitter

Ond mae'n ymddangos nad yn y wlad yn unig mae'r newid yma i'w weld.

Dyma oedd gan y llenor a'r adarwr Jon Gower i'w ddweud:

Ffynhonnell y llun, Twitter
Ffynhonnell y llun, Marka
Disgrifiad o’r llun,

Gwennol ddu

Draw yn Llydaw, mae'n sefyllfa gwahanol iawn yn ôl Laura Karadog:

Ffynhonnell y llun, Twitter

Ond pam bod y gwenoliaid yn cadw draw?

Bu Bethan Lloyd, o RSPB Cymru, yn trafod y pwnc ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru: "Mae'r record yn dweud bod llai o wenoliaid blwyddyn yma. Dwi'm yn meddwl bod o'n reswm i ni or-boeni oherwydd 'da ni wedi cael gwanwyn ofnadwy o oer ac mae'r gwenoliaid yn ymateb i hynny.

"Os oes gwanwyn oer does dim gymaint o bryfaid iddyn nhw.

"Mae Prydain yn eistedd uwchben Portiwgal, Sbaen ac ati ac mae nhw'n dod o Africa felly mae nhw'n mynd i gyrraedd rhyw bwynt a meddwl 'mae hwn yn ddigon cynnes ac mae digon o fwyd yma' - felly tydi nhw ddim cweit wedi dod yn eu niferoedd oherwydd y gwanwyn oer."

Ydy'r gwenoliaid wedi heidio i'ch ardal chi y gwanwyn yma?

Ffynhonnell y llun, Arterra
Disgrifiad o’r llun,

Gwennol y bondo