'Mae cost byw gyda gwaed heintiedig yr un fath i bawb'
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddioddefwyr y sgandal trallwysiadau gwaed heintiedig yn dweud ei bod hi'n annheg bod cleifion yn cael llai o gefnogaeth ariannol yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban.
Mae Kirk Ellis, 38 oed ac o Gaerffili, yn derbyn £18,500 y flwyddyn ar ôl cael ei heintio â hepatitis C yn dilyn trallwysiad yn ei blentyndod.
Ers mis Ebrill mae cleifion yn Lloegr yn derbyn £28,000 y flwyddyn, ac mae cynllun Llywodraeth Yr Alban yn talu £27,000 y flwyddyn i bobl yn yr un sefyllfa.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU am arian ychwanegol er mwyn talu mwy i gleifion.
Mae ymchwiliad cyhoeddus yn edrych ar sut y cafodd miloedd o bobl ag anhwylder gwaed hemoffilia eu heintio â hepatitis C neu HIV yn yr 1970au a'r 1980au, ar ôl derbyn cynnyrch gwaed o dramor oedd yn cynnwys cyffur o'r enw Factor VIII.
Ar y pryd roedd y GIG yn mewnforio'r cynnyrch o'r Unol Daleithiau, lle'r oedd unigolion o fewn grwpiau risg uchel, gan gynnwys carcharorion, yn cael eu talu i roi gwaed.
'Heintio dan yr un drefn'
Mae gan wledydd unigol y DU gynlluniau gwahanol ar gyfer rhoi cefnogaeth ariannol i gleifion a gafodd eu heintio, ac mae Mr Ellis ymhlith 175 o bobl yng Nghymru sy'n derbyn taliadau.
Mae'n dweud mai dyletswydd Llywodraeth y DU yw rhoi mwy o arian er mwyn sicrhau tegwch i gleifion ym mhob gwlad, oherwydd "roedden ni i gyd dan un llywodraeth pan gawsom ni ein heintio".
Gan gyfeirio at y sefyllfa bresennol, fe ddywedodd: "Sut gall e fod yn deg? Fe gawsom ein heintio dan yr un drefn.
"Mae gen i'r un cyflwr meddygol, yr un niwed i fy nghorff, gan fyw gyda'r un poen meddwl ac iselder â rhywun sy'n byw yn y llefydd hynny.
"Mae'r costau byw yr un fath."
Daeth i'r amlwg bod gan Mr Ellis hemoffilia pan roedd yn fachgen bach. Mae'n credu iddo gael ei heintio gan ei ddos cyntaf o Factor VIII.
"Ges i fy llorio'n llwyr," meddai, wrth ddisgrifio'i ymateb wrth gael cadarnhad pan roedd yn ei arddegau. Mae bellach â sirosis yr afu, ac wedi cyrraedd cymal 2 hepatitis C.
Fe wnaeth ymgyrchwyr sy'n brwydro i sicrhau taliadau ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban i ddioddefwyr yng Nghymru gwrdd â gweinidogion y gwahanol lywodraethau ym mis Ionawr.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fe ddaethpwyd i gytundeb yn y cyfarfod hwnnw y byddai camau i sicrhau'r un gefnogaeth ar gyfer cleifion ar draws y DU.
Ond ym mis Ebrill, ar ddechrau'r ymchwiliad cyhoeddus, fe gyhoeddodd Theresa May fanylion am £29m ychwanegol ar gyfer cleifion yn Lloegr.
Roedd y cyhoeddiad hwnnw, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn un "annisgwyl".
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru "sut y gellir sicrhau gwell gydraddoldeb" o fewn cynlluniau gwahanol ym mhedair gwlad y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018