Lefelau staffio 'anniogel' mewn ysbyty lle bu farw claf
- Cyhoeddwyd

Roedd Claire Greaves yn awdur ac yn ymgyrchydd iechyd meddwl
Mae nyrs mewn ysbyty iechyd meddwl ble wnaeth dynes o Gymru ladd ei hun yn dweud ei bod wedi mynegi i reolwyr bod lefelau staffio yno ddim yn ddiogel.
Fe wnaeth cwest ganfod bod methiannau yng ngofal Claire Greaves yn Ysbyty Cygnet yn Coventry, gan gynnwys diffyg staff, wedi cyfrannu at ei marwolaeth ym mis Chwefror 2018.
Roedd Ms Greaves, 25 oed o Bont-y-pŵl, wedi dioddef gydag anorecsia ac anhwylder personoliaeth ers yn ifanc.
Dywedodd Cygnet bod ei lefelau staffio wastad wedi cydymffurfio â safonau cenedlaethol ac wedi gwrando ac ymateb i bryderon staff.
Pryder am fwy o farwolaethau
Taffy Mandizha oedd rheolwr ward Ms Greaves yn Ysbyty Cygnet o Fehefin 2017 nes iddo ymddiswyddo union flwyddyn yn ddiweddarach.
Dywedodd wrth raglen Wales Live ei fod yn "ddig iawn" am yr hyn ddigwyddodd i Ms Greaves a'i fod yn pryderu y gallai rhywun arall farw yno yn y dyfodol.
Cafodd Ms Greaves ei symud o Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni i Cygnet - dros 100 milltir o'i chartref - ym mis Ebrill 2017.
Er ei bod wedi'i dynodi'n risg uchel o niweidio ei hun, roedd Ms Greaves wedi gallu cael gafael ar ddarn o ffabrig oedd wedi'i adael y tu allan i'w hystafell a defnyddio hwnnw i ladd ei hun pan oedd hi ar ei phen ei hun yn ei hystafell.
Fe wnaeth rheithgor y cwest ddod i ganlyniad "agored", ac ni wnaethon nhw benderfynu ei fod yn achos o hunanladdiad.

Yn dilyn y cwest eu merch dywedodd Debbie a Colin Greaves bod methiannau Cygnet yn "anghredadwy"
Daeth y rheithgor i'r canlyniad bod:
Lefelau staffio "yn debygol wedi achosi neu gyfrannu at" ei marwolaeth;
Petai "staffio digonol" byddai cynllun gofal Ms Greaves wedi cael ei ddilyn a byddai goruchwyliaeth i'r cyfnod pan laddodd ei hun;
Methiant drwy ganiatáu i Ms Greaves fod ar ei phen ei hun yn ei hystafell cyn ei marwolaeth - oedd yn mynd yn erbyn ei chynllun gofal;
Cael ei gwahanu am gyfnod hirdymor wedi cyfrannu at ddirywiad yn iechyd meddwl Ms Greaves.
Mae Cygnet yn dweud bellach nad yw'n derbyn canfyddiad y rheithgor am lefelau staffio.
'Ddim yn ddigonol'
Dywedodd Mr Mandizha ei fod wedi dweud wrth reolwyr ar sawl achlysur ei fod yn teimlo bod diffyg staff yn golygu bod y ward yn anniogel.
"Roedd gennym ni lawer o gleifion gyda phroblemau hunan-anafu, pobl wedi ceisio lladd eu hunain, ac roedd y cleifion hynny angen llawer o fewnbwn gan staff," meddai.
"Ond pan oeddwn i'n edrych ar fy lefelau staffio doedden nhw ddim yn ddigonol i ddelio gyda'r math o gleifion oedd gennym ni."
Ar yr adeg pan wnaeth Ms Greaves ladd ei hun - rhwng 17:00 a 18:00 - roedd hi i fod i gael ei goruchwylio gan un aelod o staff oedd yn canolbwyntio arni hi yn unig.
Ond dywedodd Mr Mandizha bod darparu'r lefel yna o ofal yn "anodd iawn" oherwydd diffyg staff.
"Efallai pe byddwn i â'r staff i wneud gweithgaredd neu sgwrsio â Claire yn y cyfnod hynny, efallai na fyddai'r hyn ddigwyddodd wedi digwydd," meddai.

Cafodd Claire Greaves ei symud o Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni i Cygnet ym mis Ebrill 2017
Dywedodd Cygnet bod staff ar gael i ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol ac mai cyfrifoldeb Mr Mandizha oedd sicrhau bod hynny'n digwydd.
"Doedd Taffy erioed wedi dweud nad oedd yn gallu darparu'r gofal oedd wedi'i argymell ar gyfer Claire," meddai'r ysbyty mewn datganiad.
"Roedd lefelau staffio ar ddiwrnod marwolaeth Claire 28% yn uwch na'r rota."
Pryderon blaenorol
Fe wnaeth y Comisiwn Ansawdd Gofal (CAG) godi pryderon am Ysbyty Cygnet cyn marwolaeth Claire.
Roedd y comisiwn wedi darganfod bod recriwtio a chadw staff yn anodd, a bod diffyg cysondeb wedi gwneud rhai cleifion i deimlo'n anniogel.
Fe wnaeth arolwg arall gan CAG bum mis ar ôl marwolaeth Ms Greaves ddarganfod bod staffio'n parhau'n broblem, gyda 61% o'r gweithwyr yn dweud nad oedden nhw'n gyfforddus â'u llwyth gwaith dyddiol.
Mae Mr Mandizha yn galw am ymchwiliad annibynnol i Cygnet, gan ddweud bod angen gorfodi newidiadau i osgoi rhagor o farwolaethau.
'Dim sylwedd' i'r honiadau
Dywedodd y cwmni ei fod wedi cynnal adolygiad mewnol a chyflwyno nifer o fesurau yn dilyn marwolaeth Ms Greaves.
Dywedodd llefarydd ar ran Cygnet ei fod yn cydymdeimlo â theulu Ms Greaves a'u bod yn cymryd honiadau Mr Mandizha o ddifrif.
Ond ychwanegodd bod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad bod "dim sylwedd" i'r honiadau hynny.
Mae'r CAG yn cynnal adolygiad o holl wasanaethau Cygnet ar hyn o bryd,
Wales Live, nos Fercher am 22:30 ar BBC One Wales ac yna ar yr iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2019