Llys: Dyn wedi gyrru ar 130m.y.a. gyda phlentyn yn y car
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed i ddyn o ogledd Cymru yrru ar gyflymdra o 130m.y.a. gyda bachgen saith oed yn y sedd flaen wrth geisio dianc rhag yr heddlu.
Fe wnaeth Lucas Needham, 25 oed o Gei Connah yn Sir y Fflint, gyfaddef gyrru'n beryglus ar lôn ddwyreiniol yr A55 ger Treffynnon nos Lun.
Plediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o yrru tra wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a cheisio rhwystro'r heddlu.
Clywodd Ynadon Llandudno ei fod ar un adeg wedi bod yn gyrru ar gyflymdra heb oleuadau ac yn y tywyllwch.
Roedd Needham o dan amodau dedfryd ohiriedig adeg y drosedd.
"Mae'n ddyn sy'n euog o gyflawni troseddau moduro yn gyson, gan gynnwys troseddau difrifol," meddai James Neary ar ran yr erlyniad.
Fe gafodd cais am fechnïaeth ei wrthod.
Bydd Needham yn cael ei gadw yn y ddalfa tan 13 Mehefin, pan fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug.