Bachgen yn gwadu ceisio llofruddio yn Ysgol Eirias
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ar 11 Chwefror
Mae bachgen 16 oed wedi gwadu ceisio llofruddio yn dilyn achos o drywanu mewn ysgol yn Sir Conwy.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ar 11 Chwefror.
Fe wnaeth y bachgen hefyd bledio'n ddieuog i glwyfo bwriadol yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Ond fe wnaeth y bachgen, sydd ddim yn gallu cael ei enwi am resymau cyfreithiol, gyfaddef bod â chyllell boced yn ei feddiant yn yr ysgol ddeuddydd ynghynt.
Mae disgwyl i'r achos ddechrau ar 12 Awst.