Daniel James allan o garfan Cymru wedi marwolaeth ei dad
- Cyhoeddwyd
Mae asgellwr Abertawe, Daniel James, wedi tynnu'n ôl o garfan ymarfer Cymru ym Mhortiwgal yn dilyn marwolaeth ei dad.
Mae'r garfan yn paratoi ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari yn rowndiau rhagbrofol Euro 2020.
Mewn neges ar eu cyfrif Twitter, dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe bod pawb yno "yn drist o glywed am farwolaeth sydyn tad Daniel James" ac yn cydymdeimlo â'r chwaraewr a'i deulu.
Fe sgoriodd James yr unig gôl yng ngêm ragbrofol gyntaf Cymru i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Slofacia.
Mae James yng nghanol trafodaethau ynghylch y posibilrwydd o ymuno â Manchester United, a hynny wedi i'r Elyrch wrthod cynnig amdano gan Leeds United ym mis Chwefror.
Yn ôl adroddiadau, mae Abertawe yn dal i geisio cytuno ar ffi gyda Manchester United.
Bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu Croatia yn Osijek ar 8 Mehefin a Hwngari yn Budapest ar 11 Mehefin.
Dyw dau aelod allweddol o ganol cae Cymru, Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu, ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019