Y teulu dwyieithog tu ôl i fideo feiral

  • Cyhoeddwyd

Mae'n fideo sydd wedi cael ei wylio dros ddwy filiwn o weithiau, ac yn dangos pa mor hawdd y gall plant newid rhwng dwy iaith.

Mae seren y fideo - Liam - yn fab i Gymro a Gwyddeles, ac yn newid ei acen wrth ddynwared buwch, yn ôl pa riant sydd yn siarad ag ef.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Dorian Rees

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Dorian Rees

Pan fo Dorian, o Llanrhian, ger Tyddewi, yn gofyn iddo pa sŵn ma buwch yn ei wneud, ei ateb yw 'mŵ' Cymreig iawn. Ond pan mae'n siarad â'i fam, Catherine o Belfast, mae ei acen yn swnio llawer mwy Gwyddelig - yn benodol, o Ogledd Iwerddon.

Mae'r cwpl wedi ymgartrefu yn Nulyn gyda Liam, sy'n ddwy, a Conor, sy'n saith mis.

Dyweda Dorian ei fod bob amser yn siarad Cymraeg gyda'r plant. Mae gan Liam acen Sir Benfro wrth siarad Cymraeg, meddai, ac acen Belfast wrth siarad Saesneg.

"Mae e'n cyfri lan i 10 yn y ddwy iaith, mae e'n sillafu ei enw yn y ddwy iaith, ac mae e'n siarad Cymraeg gyda'i dadcu, fy chwaer, a mwy o'r teulu. Ac yn ddiweddar cafodd e sgwrs fer yn Gymraeg, yng nghanol Belfast, gyda Gwyddel oedd wedi dysgu Cymraeg!"

Ffynhonnell y llun, Dorian Rees

Hefyd o ddiddordeb: