Deg mlynedd o ddygymod â marwolaeth rhyfel Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Martin RichardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Martin 'Rambo' Richards

Ddeg mlynedd yn ôl bu farw'r is-gorporal Martin Richards ar ôl cael ei anafu mewn ffrwydriaid yn rhyfel Afghanistan. Roedd yn 24 oed a chafodd ei farwolaeth effaith fawr ar gymuned glos Penmachno, lle cafodd ei fagu.

Wrth i'r pentref yn Nyffryn Conwy baratoi at ddiwrnod coffa ar 25 Fai - yn cynnwys gêm bêl-droed rhwng ei dîm lleol Machno Unedig a thîm o'i gatrawd yn y Môr-filwyr Brenhinol - ei ffrind Delyth Berry sy'n sôn sut maen nhw wedi dygymod dros y ddegawd ddiwethaf gyda cholli rhywun mor ifanc mewn rhyfel.

"Wnaeth bywyd jest newid mewn eiliad.

"Roedda chdi'n gwybod bod o'n gallu digwydd ond byth yn meddwl fasa'n digwydd iddo fo, dwn im mae'n siŵr ti'n gobeithio fasa fo byth yn digwydd. Doedd bywyd byth am fod yr un fath eto.

"Ti'n cael amseroedd lle ti jest ddim yn gwybod sut ti am ddod dros y diwrnod, ac wedyn ar rhai diwrnodau 'nei di chwerthin am bethau ti wedi gwneud efo fo yn ei fywyd a phethau mae o wedi gwneud.

"Mae o fel rollercoaster - ti fyny ac i lawr. Mae'n anodd achos wnaeth o golli ei fywyd yn 24 a ti'n gweld pobl sydd yr un oedran ac maen nhw'n dechrau priodi a chael plant eu hunain.

"Mae hynny'n cael effaith arna chdi achos ti'n meddwl dylai o wedi cael y chance i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Martin Richards - neu 'Rambo' i'w ffrindiau ers yn blentyn - yn gwireddu breuddwyd pan ymunodd â'r Môr-filwyr Brenhinol

"Be' dwi'n stryglo efo ydi Rememberance Sunday - mae hwnnw'n cael andros o effaith ar lot ohona ni a dwi'n stryglo efo hwnnw 10 mlynedd lawr y lein.

"Mae gen i ffrindiau a theulu sydd yna i gadw fi fynd ac wedyn ti'n deall ti'm yna ar ben dy hun mae digon yma sydd am helpu chdi gario ymlaen.

Effeithio cymuned gyfan

"I fod yn onest mae o wedi effeithio pawb yn y pentref - ac ar bobl doedd ddim yn adnabod Martin mor dda â hynny achos mae pawb mor, mor agos yma ac mae pawb yn ffrindiau felly mae o wedi cael effaith mawr.

"Un peth sy'n dda ydi oherwydd bod y lle mor fach â phawb mor glos, mae pawb wedi helpu ei gilydd i ddod drwy be' sydd wedi digwydd.

"Rŵan mae 10 mlynedd wedi pasio, ti'm yn anghofio fo, ti jest yn gorfod dysgu i fyw hebddo fo a dyna pam da ni eisiau gwneud rhywbeth i farcio bod 10 mlynedd wedi mynd heibio achos tyda ni byth yn mynd i anghofio - a dwi ddim eisiau plant Penmachno anghofio amdano fo chwaith.

Cofio hogyn llawn hwyl

"Roedd o'n andros o hogyn hwyliog oedd hefyd yn gwneud pethau gwirion ac os oedd o'n ffrind i chdi, oedd o'n ffrind i chdi beth bynnag ac yna i helpu chdi o hyd. Roedda ni'n cael andros o hwyl efo fo.

Disgrifiad o’r llun,

Delyth Berry

"Roedd o'n chwarae pêl-droed i Machno United pan oedd o adra a fasa fo'n helpu i wneud unrhywbeth efo'r clwb.

"Mae pêl-droed yn rhan bwysig o'r pentref, mae lot o hen hogia' football yn dod i'r diwrnod - lot sydd heb chwarae er blynyddoedd.

"Da ni'n chwarae tîm y ASG (Armoured Support Group) y Marines efo rhai oedd yn adnabod Martin yn mynd i chwarae. Maen nhw i gyd yn dod i fyny i ddod at ei gilydd achos mae o'n rhywbeth wedi effeithio arnyn nhw hefyd.

"Pan gatho ni wybod bod Martin wedi anafu y peth cyntaf neshi feddwl oedd 'does 'na neb yna efo fo, mae'n rhaid i rywun fynd yna ato fo' - ti'm yn meddwl 'mae o yn Afghanistan' ti jest eisiau mynd...

"Ond ar ôl cyfarfod yr hogiau yma pan ddaethon nhw fyny i gladdu ac wedi dod fyny wedyn, beth sy'n amlwg ydi roedd gan Martin ddau deulu - roedd ganddo fo ei deulu ym Mhenmachno ac roedd ganddo fo deulu yn y Marines."

Bydd y gêm - fydd yn casglu arian at elusen - yn dechrau am 11.30 bore Sadwrn, Mai 25, ar gae pêl-droed Penmachno gyda gwasanaeth coffa a dathliad wedi hynny.