BBC Cymru yn lansio cyfres o bodlediadau yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Elis James
Disgrifiad o’r llun,

Mae podlediad cyntaf Elis James - Dwy Iaith, Un Ymennydd - yn trafod dwyieithrwydd gyda Gruff Rhys

Mae'r BBC wedi cyhoeddi y byddant yn creu casgliad o bodlediadau newydd yn y Gymraeg dros y flwyddyn nesaf ar BBC Sounds.

Bydd y podlediadau newydd yn gymysgedd o leisiau newydd a chyfarwydd, yn dilyn rownd gomisiynu yn benodol ar gyfer podlediadau Cymraeg gan BBC Cymru.

Am y tro cyntaf, mae'r podlediadau yma wedi eu cynhyrchu fel cynnwys unigryw a neilltuol i BBC Sounds, yn hytrach na chynnwys sy'n gysylltiedig â rhaglenni BBC Radio Cymru.

Dywedodd golygydd BBC Radio Cymru, Rhuanedd Richards fod y casgliad yn gynnwys "gwreiddiol, gonest a diddorol".

"Mae BBC Sounds yn cynnig gofod creadigol newydd i ni gomisiynu cynnwys a chanddo sain wahanol i'n gorsafoedd radio," meddai.

"Mae hefyd yn gyfle i ni greu cyfleoedd i gynhyrchwyr ifanc a datblygu lleisiau newydd - i ehangu ein harlwy a dod ag egni newydd.

"Mae'r posibiliadau'n enfawr, a'r cyfle i ymestyn cyrhaeddiad ein cynnwys Cymraeg yn fwy nag erioed."

Mae un o'r casgliad eisoes ar gael, sef Dwy Iaith, Un Ymennydd gydag Elis James.

Ymhlith y rhai eraill mae Lisa Angharad yn trin a thrafod rhyw yn Siarad Secs, a phodlediad o dan y teitl Hanes Cymru gyda'r digrifwr Tudur Owen a Dyl Mei.