Sefydliad am daflu goleuni ar argyfwng iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd

Mae ffrindiau a theulu merch ifanc o Gaerdydd, a laddodd ei hun, yn mynd ar daith feics ledled Cymru er mwyn sefydlu elusen yn ei henw i gynorthwyo pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.
Roedd Manon Jones yn ddisgybl yn Ysgol Plasmawr a newydd droi'n 16 oed.
Mae ei rheini Jeff a Nikki Jones, a'i chwaer Megan am greu Sefydliad Manon Jones, dolen allanol i "gynnig cymorth a gwybodaeth ymarferol i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl".
Er mwyn helpu i lansio'r Sefydliad bydd grŵp o ffrindiau a theulu yn beicio'r Lon Las- taith 250 o filltiroedd o Gaergybi i Gaerdydd - yn ystod Gŵyl Banc y Sulgwyn.
Dywedodd mam Manon Jones, Nikki: "Roedd Manon yn gymeriad disglair, deinamig a thalentog - roedd yn ofalgar, yn gariadus ac yn angerddol.
"O'r tu allan roedd fel petae'r byd wrth ei thraed, ond y tu mewn iddi roedd yma lofrudd tywyll a distaw yn amsugno pob teimlad o bositifrwydd y gallai ddod o hyd iddo.
"Eto i gyd, hyd yn oed yn y misoedd tywyllaf hynny, byddai Manon yn llwyddo i ddod â gwên a llond trol o garedigrwydd i unrhyw achlysur.
"Roedd Manon bob amser yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell i bawb o'i chwmpas, felly rydym am greu'r Sefydliad i helpu i daflu goleuni yn yr argyfwng iechyd meddwl tywyllaf a lledaenu caredigrwydd dros rannau caletaf bywyd."

Dechreuodd y beicwyr eu taith yng Nghaergybi gan groesi Pont Menai

Bydd y beicwyr yn gorffen eu taith yng Nghaerdydd ddydd Llun
Nod y sefydliad hefyd yw helpu eu ffrindiau a'u teuluoedd, nad oes ganddynt unman yn aml i droi am gyngor ar sut i'w cefnogi.
Mae'r grŵp ar y daith o'r gogledd yn cynnwys tad Manon, Jeff, athrawon o Ysgol Plasmawr a'i hysgol gynradd, Ysgol Treganna ynghyd â rhieni ei ffrindiau a'i chymdogion
Y nod hefyd yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl pobl ifanc ar adeg pan fydd llawer ohonynt yn wynebu pryder ynghylch arholiadau.

Roedd Manon yn ddisbygl yn Ysgol Uwchradd Plasmawr
'Cyrchfan addas'
Dywedodd Rhys Harries, Pennaeth Ysgol Treganna: "Roedd Manon yn ddisgybl gwych ac rydym i gyd yn ei cholli.
"Mae seiclo hyd Cymru i gyrraedd mewn pryd ar gyfer ymweliad Eisteddfod yr Urdd â Chaerdydd yn fodd delfrydol i ddathlu Manon a sicrhau cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc eraill. "
Fe wnaeth y beicwyr gychwyn o Gaergybi ddydd Gwener gan deithio drwy Borthmadog, Llanidloes ac Aberhonddu, cyn gorffen yn y brifddinas.
Bydd y grŵp yn cyrraedd Bae Caerdydd am 16:30 ddydd Llun gan ddiweddu yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywed ei theulu fod y man gorffen yn "gyrchfan addas er cof am Manon a oedd yn cystadlu'n rheolaidd yn yr Eisteddfod ac yn aelod gydol oes o'r Urdd. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017